Y Waverley ryfeddol yn hwylio i mewn i’r harbwr
Wonderful Waverley heads for harbour
Mae Dinbych-y-pysgod yn paratoi i groesawu'r stemar olwyn eiconig, y Waverley, yn ôl i'r harbwr yr wythnos hwn.
Dros yr haf y llynedd dychwelodd yr unig stemar olwyn sydd yn dal yn teithio’r cefnfor i Ddinbych-y-pysgod ar ôl mwy na 30 mlynedd a daeth cannoedd o bobl o amgylch yr harbwr i groesawu'r llong.
Mae Waverley Excursions yn falch iawn o fod yn dychwelyd i'r ardal a byddant yn cludo teithwyr i'r dref arfordirol ac oddi yno ddydd Iau, 6 Mehefin.
Disgwylir i'r Waverley ddod i'r lan tua 5.45pm cyn cychwyn ar fordaith gyda'r nos am 6.15pm.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Fe wnaeth cannoedd o bobl fwynhau ymweliad y Waverley yn 2023 ac rydym yn sicr y bydd eleni'r un mor wych. Mae'n hyfryd gweld y llong hon yn ôl yn Sir Benfro gan fod gan lawer o bobl leol atgofion gwych ohoni yn ymweld â'r sir yn y gorffennol."