English icon English
Foster Wales pic of family in kitchen

Ymchwil newydd yn amlygu’r arbenigedd a’r cymorth a ddarperir i annog mwy o bobl i faethu

New research highlights expertise and support provided to encourage more people to foster

Gan fod mwy na 7,000 o bobl ifanc yn derbyn gofal ledled Cymru, mae’r angen am fwy o ofalwyr maeth yn gynyddol ddybryd. 

Ym mis Ionawr lansiodd rhwydwaith cenedlaethol y 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Sir Benfro â'r ymgyrch, 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth,' i rannu profiadau realistig gan y gymuned faethu i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau.

Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a'r 'swigen gymorth' sy'n bodoli o amgylch gofalwyr maeth.

Mae'r ymgyrch ddiweddaraf 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth' yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu i ddeall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well.

Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a pharhaol i gefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roedden nhw hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a'r gefnogaeth rydych chi'n ei chael, a thalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol.

Mae Vanessa, gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Benfro yn rhannu ei phrofiad o’r gefnogaeth gan ei gweithiwr cymdeithasol maethu.

“Rydym wedi cael y fraint o fod â’r un gweithiwr cymdeithasol yn ystod ein gyrfa faethu o chwe blynedd. Mae hyn yn amhrisiadwy gan ei fod yn ein hadnabod ni a'r plant a'u hanes yn y gorffennol.

“Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn gyfeillgar ac yn ddeallus. Pan rydym wedi cael anawsterau a thrafferthion, rydym wedi gallu eu cyfleu mewn ffordd agored a gonest, dydyn ni ddim yn teimlo ein bod yn cael ein barnu.

“Heb os, mae'r gwasanaethau o dan lawer o bwysau ond mae ein gweithiwr Cymdeithasol bob amser yn ceisio ein cefnogi cystal ag y gall. Mae gweithiwr cymdeithasol da, sy’n deall, gyda moeseg a moesau da yn hanfodol."

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Tessa Hodgson, ymgyrch Maethu Cymru.

“Mae gofalwyr maeth mor bwysig i'n pobl ifanc sy'n cael eu hunain mewn amgylchiadau hynod o agored i niwed heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ond mae hefyd yn bwysig cofio bod angen cefnogaeth ar y gofalwyr hyn hefyd.

“Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn gweithio'n eithriadol o galed dros blant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n eu cefnogi, gan ddarparu gwybodaeth, hyder a chymhelliant i'r rhai sy'n dymuno dod yn ofalwr maeth."

Am fwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://sirbenfro.maethucymru.llyw.cymru/