English icon English
Ceffylau yn pori pic ffeil

Ymdrech gydweithredol i fynd i'r afael â phori anghyfreithlon

Collaborative effort to tackle fly grazing

Mae Cyngor Sir Penfro yn ymuno â Heddlu Dyfed-Powys mewn ymgais i fynd i'r afael â phroblem gynyddol ceffylau ar ardaloedd cyhoeddus yn y sir.

Daw'r cam wedi i'r Sir weld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o geffylau'n cael eu gadael ar dir cyhoeddus a phriffyrdd – arfer sy'n cael ei alw’n pori anghyfreithlon.

Dros gyfnod y Nadolig bydd yr asiantaethau yn gweithio mewn ymdrech gydweithredol i liniaru'r broblem.

Mae'r dull ar y cyd hwn yn ymateb i bryderon yn y gymuned ac yn rhan o fenter ehangach a fydd yn galluogi asiantaethau partner i fynd i'r afael â'r mater yn effeithiol.

Gall aelodau'r cyhoedd roi gwybod am bryderon pori anghyfreithlon drwy gysylltu ag enquiries@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.