Ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor Sir Benfro
Pembrokeshire County Council budget consultation
Dywedodd y Cynghorydd Joshua Beynon, Aelod Cabinet Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd:
“Hoffwn ddiweddaru trigolion Sir Benfro ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor ac amlinellu sut rydym yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau fel rhan o'r broses pennu cyllideb flynyddol.
“Fel llawer o Awdurdodau Lleol ledled Cymru, mae'r Cyngor yn profi galw cynyddol am ein gwasanaethau hanfodol, sy'n dod â phwysau ariannol sylweddol yn ei sgil.
“Mae adroddiad monitro cyllideb chwarter 2 wedi nodi rhagamcaniad o ddiffyg o £3.9m yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-25). Er bod hyn yn achosi heriau, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion cynaliadwy.
“Mae'n bwysig cydnabod y pwysau sy'n wynebu meysydd allweddol fel Gofal Cymdeithasol a Thai, gyda gorwariant disgwyliedig o £8.8m ar gyfer 2024-25, gan gynnwys £5.68m yn gysylltiedig â'r Gwasanaethau Plant. Mae'r gwasanaethau hyn yn gweld twf digynsail yn y galw, yn enwedig mewn lleoliadau gofal preswyl. Er bod hyn yn amlygu anghenion cynyddol ein cymuned, mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithio i fynd i'r afael â nhw.
“Mewn Gofal i Oedolion, mae'r galw cynyddol - sy'n cael ei achosi gan boblogaeth sy'n heneiddio - yn gofyn i ni archwilio dulliau arloesol o ddiwallu anghenion ein preswylwyr gan reoli adnoddau'n effeithiol.
“Rydym yn cydnabod bod yr heriau hyn yn gofyn am weithredu meddylgar. Dyna pam rydym yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth Cymru i eirioli dros setliadau cyllido teg ac atebion hirdymor i Awdurdodau Lleol.
“Er gwaethaf y pwysau ariannol hwn, mae ein hymrwymiad yn parhau i fod yn glir: diogelu'r gwasanaethau y mae trigolion yn eu gwerthfawrogi fwyaf.
“Mae'r Cabinet yn canolbwyntio ar gyflwyno opsiynau ym mis Chwefror sy'n amlinellu effaith unrhyw newidiadau angenrheidiol i wasanaethau yn glir. Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae pob cynnydd o 1% yn y dreth gyngor yn cynhyrchu tua £820,000 mewn incwm ychwanegol - sy'n cyfateb i ddim ond 29c yr wythnos ar gyfer aelwyd Band D. Er nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud, mae hyn yn dangos sut y gall cyfraniadau bach wneud gwahaniaeth mawr gyda'i gilydd.
“Yn anad dim, hoffwn sicrhau trigolion ein bod yn mynd i’r afael â’r broses gyllideb hon gyda'ch anghenion a'ch blaenoriaethau ar flaen ein meddyliau. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu yn sylweddol, ond rydym yn benderfynol o'u llywio mewn ffordd sy'n diogelu ein cymunedau ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ar gyfer Sir Benfro."