
Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch gwelliannau teithio llesol a chysylltedd yn Noc Penfro
Pembroke Dock Active Travel and connectivity improvements public consultation
Dewch i ddysgu mwy am y cynigion ar gyfer teithio llesol a gwella cysylltedd yn Noc Penfro ar ddiwrnod ymgynghoriad cyhoeddus, 24 Mehefin 2025.
Bydd y digwyddiad yn lansio arolwg ar-lein pum wythnos o hyd ar gynigion yn y dref, ac yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd roi adborth ar y trefniadau arfaethedig.
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Y Stryd Fawr: Opsiynau ar greu llwybr cyd-ddefnyddio ar ochr ogleddol y briffordd gydag opsiwn eilaidd o drefniant stryd dawel.
- Bush Street: Creu llwybr cyd-ddefnyddio i ganiatáu i feicwyr i deithio oddi ar y gerbytffordd.
- Trinity Road: Lledu’r droedffordd i greu llwybr cyd-ddefnyddio a/neu ffordd stryd tawel.
- Prospect Place / Parc Coffa: Cyflwyno llwybr cyd-ddefnyddio yn mynd i ganol y dref ac i ochr orllewinol y parc ynghyd â gwelliannau pellach i gysylltu â’r Stryd Fawr.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau gyda sesiwn galw heibio ar 24 Mehefin 2025, rhwng 9am a 5pm yn Neuadd Pater yn Noc Penfro.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn y sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi.
Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau o 24 Mehefin 2025.
Bydd yr arolwg ar-lein ar gael am bum wythnos, gan ddod i ben ganol nos ar 28 Gorffennaf 2025.
Er bod y cyngor sir yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o’r dyluniadau a’r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Mae copïau drwy’r post ar gael ar gais drwy gysylltu â’r tîm ar majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael ei/eu nodi. Ni chaiff yr opsiynau a ffefrir eu penderfynu’n derfynol hyd nes y cawn adborth gan y gymuned leol.