English icon English
20mph get ready for 20

Ymgynghoriad i agor ar gynigion Sir Benfro yn ymwneud â deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru

Consultation opens on Pembrokeshire proposals relating to the Welsh Government 20mph legislation

Ym mis Gorffennaf 2022, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth i leihau'r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Fe ddaw’r ddeddfwriaeth i rym ar draws Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, ar 17 Medi 2023.

Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau, ni fydd cyfyngiad cyflymder o 20mya yn briodol nac yn ymarferol.

Yn y lleoliadau hyn, gall y cyfyngiad cyflymder 30mya aros ar sail proses 'eithriadau', fydd yn cael ei chyflwyno drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO).

Mae'r meini prawf a'r canllawiau ar gyfer y broses hon wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

Ar ôl adolygu'r meini prawf hyn a gofyn am adborth gan gynghorwyr sir, mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnig saith ar hugain o eithriadau 20mya ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor heddiw (Dydd Mercher 17 Mai) ar yr eithriadau 20mya arfaethedig.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 3 wythnos, gan ddod i ben Ddydd Mercher, 7  Mehefin.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn ynghylch terfynau cyflymder 20mya arfaethedig ar y ffyrdd 30mya hynny yn Sir Benfro na fyddant yn 20mya yn ddiofyn yn awtomatig ym mis Medi gan nad ydynt wedi’u dosbarthu yn 'ffyrdd cyfyngedig' (gelwir y ffyrdd hyn yn 30mya drwy orchymyn).

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Mae hwn wedi bod yn ddarn o waith sylweddol a chymhleth a wnaed gan staff yn y Tîm Rheoli Traffig er mwyn ein cael ni'n barod i weithredu'r ddeddfwriaeth hon gan Lywodraeth Cymru ac rwyf am ddiolch iddyn nhw am yr amser maen nhw wedi'i dreulio i ddod â ni i’r pwynt hwn yn y broses.

"Nawr tro’r gymuned yw hi i roi sylwadau ar y cynigion ac rwy’n gobeithio'n fawr y byddan nhw'n cymryd yr amser i ymateb."

Gellir gweld yr eithriadau arfaethedig a'r terfynau 20mya arfaethedig ar: Gweler map | MapDataCymru (llyw.cymru) neu fel arall yn bersonol yn nerbynfa Neuadd y Sir.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

Ar-lein:

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein o Ddydd Mercher 17 Mai tan Ddydd Mercher 7 Mehefin ar wefan y Cyngor yn Rheoleiddio Traffig Ffyrdd - Cyngor Sir Benfro (sir-benfro.gov.uk)

Yn bersonol:

Bydd dogfennau a chynlluniau hefyd ar gael i'w gweld yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, o Ddydd Mercher 17 Mai i Ddydd Mercher 7 Mehefin (galwch heibio i'r Dderbynfa, sydd ar agor rhwng 9am a 5pm, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener).