Ysbrydoli llysgenhadon ifanc yn ystod diwrnod hyfforddi Chwaraeon Sir Benfro
Young Ambassadors inspired at Sport Pembrokeshire training day
Bu mwy na 30 o ysgolion cynradd o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan mewn Diwrnod Hyfforddi Llysgenhadon Ifanc Efydd a gynhaliwyd yn Archifdy Sir Benfro yn gynharach y mis hwn.
Wedi ei drefnu gan Chwaraeon Sir Benfro, a’i noddi trwy garedigrwydd Valero, nod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yw grymuso pobl ifanc i ddylanwadu ar eu cymunedau drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn y digwyddiad ar ddydd Mawrth 15 Medi, bu Llysgenhadon Ifanc Aur ac Arian yn croesawu disgyblion ac yn rhannu eu profiadau o hyrwyddo chwaraeon a llesiant yn eu hysgolion.
Bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai yn ymdrin â chymorth cyntaf, gweithgareddau cynhwysiant, creu cynlluniau gweithredu a Milltir y Dydd, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder y mae eu hangen ar gyfer eu rolau fel llysgenhadon.
Dywedodd Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro, Matt Freeman: “Mae’r Gynhadledd Llysgenhadon Ifanc Efydd yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae pobl ifanc yn ei chwarae wrth lywio cyfleoedd chwaraeon, gweithgarwch corfforol a llesiant yn eu hysgolion a’u cymunedau.
“Drwy ddatblygu hyder, sgiliau a rhinweddau arweinyddiaeth llysgenhadon ifanc, rydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr a all ysbrydoli eraill i ddod yn fwy egnïol ac yn fwy cysylltiedig â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
“Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr arweinwyr ifanc hyn yn helpu i gynyddu cyfranogiad, hyrwyddo cynhwysiant, a sicrhau bod lleisiau eu cyfoedion yn helpu i lywio cyfleoedd yn eu hysgolion a’u cymunedau ehangach.”