English icon English
Young Ambassadors - Llysgenhadon Ifanc cropped

Llysgenhadon Ifanc yn hyfforddi i fod yn arweinwyr y dyfodol

Young Ambassadors training to be leaders of the future

Yn ddiweddar, gwnaeth 50 o Lysgenhadon Ifanc o chwe Ysgol Uwchradd ddilyn hyfforddiant Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Sir Benfro ac roedd dau athletwr lleol llwyddiannus wrth law i roi ysbrydoliaeth iddynt ar gyfer y dyfodol.

Mudiad arweinwyr ieuenctid yw Llysgenhadon Ifanc sydd â'r nod o ddatblygu arweinwyr y dyfodol drwy chwaraeon, gweithgareddau corfforol a chwarae.

Bydd Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio eu rôl i ysbrydoli, dylanwadu, arwain a mentora o fewn ac ar draws addysg a chymunedau, i gysylltu a chefnogi cymdeithas i fod yn iach ac yn egnïol.

Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn tri gweithdy a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd – cymorth cyntaf, ymwybyddiaeth o gynhwysiant a chynllunio camau gweithredu.

Yn ymuno â'r grŵp roedd Jordan Hart, chwaraewr badminton proffesiynol a gyflwynodd sgwrs ysgogol ysbrydoledig ar arweinyddiaeth, a Bleddyn Gibbs, sydd wedi ennill sawl Medal Aur am godi pwysau pŵer yn y Gemau Olympaidd Arbennig.

Mae Llysgenhadon Ifanc yn aelodau gwerthfawr o'r gweithlu gwirfoddol ac ar hyn o bryd maent yn cefnogi digwyddiadau a gwyliau, a darpariaeth allgyrsiol yn eu hysgolion eu hunain, mewn ysgolion cynradd a lleoliadau cymunedol.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi sesiynau aml-chwaraeon am ddim Chwaraeon Sir Benfro ym Mhenfro, Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Abergwaun.

Dywedodd Rominy Colville, Cydlynydd Pobl Ifanc Egnïol: "Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y rhaglen Llysgenhadon Ifanc i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn arweinwyr trwy chwaraeon.

"Bydd ganddyn nhw y pŵer i helpu i annog cyfoedion i fwynhau chwaraeon, am oes gobeithio, gyda'r holl fanteision i iechyd a lles sy'n dod yn sgil hynny.

"Diolch i'n noddwr Valero am gefnogi'r bobl ifanc anhygoel hyn ar eu llwybr i fod yn arweinwyr chwaraeon."

Dylai unrhyw ddisgyblion neu ysgolion sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am y rhaglen Llysgenhadon Ifanc gysylltu â Rominy.colville@pembrokeshire.gov.uk