Sêr Boccia ifanc yn mynd amdani mewn twrnameintiau Sir
Young Boccia stars on a roll at County tournaments
Fe wnaeth pobl ifanc o ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Dysgu ledled Sir Benfro arddangos eu sgiliau, eu gwaith tîm a'u penderfyniad yn Nhwrnameintiau Boccia Ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Dysgu eleni.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn ne Sir Benfro yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ar 13 Hydref ac fe'i henillwyd gan Ysgol Johnston. Cymerodd timau o Ysgol WR Dinbych-y-pysgod, Gelliswick, Johnston, Ysgol Gymunedol Doc Penfro a Monkton ran mewn diwrnod cystadleuol iawn.
Cynhaliwyd twrnamaint gogledd Sir Benfro yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ar 14 Hydref, ac Ysgol Fenton ddaeth i’r brig fel pencampwyr. Ymhlith yr ysgolion a gynrychiolwyd roedd Ysgol Fenton, Ysgol Glannau Gwaun ac Ysgol Waldo Williams.
Trefnwyd y ddau ddigwyddiad gan Chwaraeon Sir Benfro.
Gwnaeth wyth Canolfan Adnoddau Dysgu ac 19 tîm gymryd rhan ar draws y ddau ddigwyddiad, gan roi cyfle i ddisgyblion fwynhau chwaraeon cystadleuol, magu hyder ac arddangos sgiliau rhagorol.
Cefnogwyd y twrnameintiau gan Lysgenhadon Ifanc Arian o Ysgol Greenhill yn nigwyddiad y de ac Ysgol Bro Gwaun yn nigwyddiad y gogledd, a gwnaeth eu brwdfrydedd a'u cymorth helpu i sicrhau bod y ddwy gystadleuaeth wedi mynd yn ddidrafferth.
Dywedodd Jon Rowles o Chwaraeon Sir Benfro: "Chwaraewyd y ddau dwrnamaint mewn hwyliau gwych ac roedd safon y boccia yn uchel iawn. Cafodd y diwrnodau eu cynnal yn wych gan y Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Greenhill ac Ysgol Bro Gwaun.
"Diolch i'r holl ysgolion, staff a gwirfoddolwyr a fu'n rhan o wneud y digwyddiadau mor llwyddiannus."
Diolch yn arbennig hefyd i noddwr y digwyddiad Valero am ei gefnogaeth i chwaraeon ysgol a chyfleoedd cynhwysol i bobl ifanc ledled y sir.