
Pobl ifanc yn mwynhau taith gyfnewid ryngwladol o Oberkirch i Hwlffordd
Young people enjoy international learning exchange trip from Oberkirch to Haverfordwest
Cafodd Clwb Ieuenctid Hwlffordd y pleser o groesawu 20 o bobl ifanc a'u hathrawon o Oberkirch, yr Almaen, ar adeg eu hymweliad fis diwethaf.
Mae Oberkirch wedi ei gefeillio â Hwlffordd ers 1989, felly mae partneriaeth hirsefydlog wedi datblygu rhwng y ddwy gymuned.
Roedd yr ymweliad hwn ar 7 Ebrill yn dilyn taith gyfnewid lwyddiannus ym mis Awst 2024, pan deithiodd 20 aelod o Glwb Ieuenctid Hwlffordd, a'u gweithwyr ieuenctid, i Oberkirch.
Ariannwyd y ddwy daith drwy raglen Taith – menter sy'n cefnogi cyfnewidiadau dysgu rhyngwladol yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Roedd yr ymweliad pum niwrnod â Sir Benfro yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl ifanc ymgolli mewn diwylliant newydd, creu cyfeillgarwch ystyrlon, a chefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol.
Cymerodd y grŵp ran mewn rhaglen lawn a diddorol o weithgareddau, gan ddechrau gyda noson groeso yng Nghanolfan Ieuenctid The Edge lle cawsant eu cyflwyno i aelodau o gymuned Hwlffordd a chael perfformiad gan Gôr Meibion talentog Hwlffordd.
Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys taith gerdded ar lwybr yr arfordir i weld y golygfeydd, ymweliadau â safleoedd hanesyddol, profiadau diwylliannol amrywiol, a thaith o amgylch Ysgol Uwchradd Hwlffordd.
Roedd yr adborth yn nodi cymaint yr oedd y grŵp wedi mwynhau eu hymweliad â Sir Benfro, gan werthfawrogi'n arbennig y golygfeydd godidog a'r dirwedd naturiol.
Dywedodd Liz Griffiths, Rheolwr y Tîm Ieuenctid Cymunedol: "Mae cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol hon wedi bod yn brofiad cyfoethogi i'r bobl ifanc, gan ehangu eu gorwelion diwylliannol a darparu cyfleoedd gwerthfawr i deithio a dysgu.
"Fe wnaethon nhw ymddwyn yn aeddfed ac yn gwrtais iawn, gan wasanaethu fel llysgenhadon rhagorol ar ran Oberkirch. Rydym yn gobeithio bod hyn yn nodi dechrau cyfnewidiadau amlach rhwng pobl ifanc ein gefeilldrefi."
Mae Ieuenctid Sir Benfro yn darparu profiadau, cyfleoedd, gwybodaeth, cyngor a chymorth personol i bobl ifanc 11-25 oed.
Nodiadau i olygyddion
Yn y llun: Y grŵp o bobl ifanc ac athrawon o Oberkirch yn ystod eu hymweliad â Sir Benfro.