Railway station artwork - Celf gorsaf reilffordd

Gwaith celf gan bobl ifanc yn dod â lliw a chreadigrwydd i Orsaf Reilffordd Hwlffordd

Youth artwork brings colour and creativity to Haverfordwest Railway Station

Rhannu:

 Mae partneriaeth o wasanaethau lleol, rhanddeiliaid trafnidiaeth a sefydliadau cymunedol wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwelliannau a chyflwyno gwaith celf newydd yng Ngorsaf Reilffordd Hwlffordd, gyda phwyslais cryf ar ymgysylltu â phobl ifanc a’u hannog i gyfrannu’n greadigol.

Mae'r Cysylltu De-orllewin Cymru, Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir Penfro, Canolfan Ieuenctid yr Edge a Thimau Adfywio, Kier, Trafnidiaeth Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Oriel VC, Fforwm Gweithredu Hwlffordd a nifer o artistiaid lleol wedi cymryd rhan yn y gwaith.

Fel rhan o Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, cyflawnodd Kier waith adnewyddu yn yr orsaf, gan gynnwys glanhau a gwelliannau i'r ardal aros a'r cyfleusterau cyhoeddus. Cafodd adeilad nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar Blatfform 2 ei lanhau a'i baratoi ar gyfer arddangos gwaith celf. Ariannwyd y gosodiadau celf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cynhyrchodd pobl ifanc a gefnogwyd drwy wasanaethau Cyngor Sir Penfro gyfres o weithiau celf sydd bellach yn cael eu harddangos yn ardal aros yr orsaf ac ar adeilad Platfform 2. Mae gweithiau ychwanegol a grëwyd gan artistiaid lleol hefyd wedi'u gosod, gan ddod â lliw a chreadigrwydd newydd i amgylchedd yr orsaf.

Mae'r prosiect hwn wedi dod a gwahanol linynnau o gyfranogiad cymunedol a gwaith creadigol ynghyd, gan gyfrannu at amgylchedd mwy croesawgar i deithwyr ac ymwelwyr, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol ystyrlon.

Mae parhau i wella'r pyrth allweddol i'r dref, o Orsaf Reilffordd Hwlffordd i’r Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn Hwlffordd, yn rhan bwysig o gefnogi ymdrechion adfywio ehangach yng nghanol y dref. Mae'r gwelliannau hyn yn helpu i greu amgylchedd mwy deniadol, croesawgar a chysylltiedig i drigolion ac ymwelwyr, gan gryfhau argraffiadau cyntaf o'r dref a chyfrannu at ei apêl gyffredinol fel cyrchfan i fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: “Mae'n wych gweld celf a diwylliant yn cael eu cyflwyno i bobl yn hytrach na’u bod nhw'n mynd ati i chwilio amdano ac mae gennym draddodiad gwych yn Sir Benfro o bobl ifanc yn cynhyrchu celf gyhoeddus o’r math hwn. Mae'r ffaith bod hon yn bartneriaeth eang o grwpiau yn ychwanegu at werth y prosiect. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn achub ar y cyfle i fynd i weld yr hyn sydd wedi'i greu."

Dywedodd Ian Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction yng Nghymru: “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi gwelliannau yng Ngorsaf Reilffordd Hwlffordd drwy ein gwaith ar brosiect cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus ehangach, ac i fod yn gadael etifeddiaeth mor gadarnhaol i'r gymuned leol.

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o randdeiliaid yn dod at ei gilydd i gefnogi a dathlu'r bobl ifanc greadigol sy'n rhan o'r prosiect hwn, gan ddarparu lle mwy croesawgar i deithwyr ac ymwelwyr.”

Dywedodd Philip Merchant, Rheolwr Prosiect Cysylltu De-orllewin Cymru: "Fel Cysylltu De-orllewin Cymru, fe wnaethom ymgymryd â'r prosiect hwn fel ymateb i adborth y gymuned nad oedd yr orsaf yn lle croesawgar, yn ei hamgylchedd ac er lles teithwyr.

Roedd yn her ac yn gyfle i gymryd hyn fel cynfas gwag ac roedd mor bleserus gweithio gyda llawer o bartneriaid a oedd â'r un weledigaeth a'r un rhesymau i uwchraddio'r orsaf reilffordd bwysig hon.”

Dywedodd Nathaniel Owen, Uwch Reolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o fod wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Penfro, Kier Construction, Cysylltu De-orllewin Cymru ac artistiaid a rhanddeiliaid lleol i gyflawni rhai gwelliannau bach ond pwysig i amgylchedd yr orsaf yn Hwlffordd. Rydym yn gobeithio y bydd cwsmeriaid yn mwynhau edrych ar y gwaith celf a wnaed gan bobl leol i bobl leol pan fyddant yn teithio gyda ni.”

Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i weithio mewn partneriaeth, cefnogi pobl ifanc, a gwella mannau cyhoeddus i'r gymuned ehangach.