English icon English
Mae arwyddbyst ar gyfer llwybr Art Afoot yn Abergwaun wedi cael eu fandaleiddio

Yr heddlu yn ymchwilio i’r difrod bwriadol i arwyddion ar lwybr celf

Deliberate damage to art trail signs investigated by police

Mae arwyddion llwybr celf newydd Abergwaun wedi cael eu targedu, gan achosi tua £400 o ddifrod.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar ôl iddi ymddangos bod pum arwyddnod cyfeirio metel wedi'u torri'n fwriadol oddi ar arwyddbyst yn Abergwaun yn ddiweddar.

Mae'r arwyddion yn cyfeirio trigolion ac ymwelwyr i lwybr Art Afoot/Celf ar Droed, a ariennir gan Lywodraeth y DU, a lansiwyd ym mis Rhagfyr ac sydd wedi bod yn atyniad poblogaidd yn y dref glan môr.

Daeth preswylydd lleol o hyd i un o'r arwyddion wedi'i dorri i ffwrdd gan roi gwybod i Gyngor Tref Abergwaun. Cafodd un ei fandaleiddio ar ddechrau'r Rhodfa Forol, un arall ar y llwybr rhwng y berllan gymunedol ger Ysgol Bro Gwaun ac un ger y ffordd osgoi.

Mae arwyddion eraill ar yr un pyst yn dal yno, felly mae'n ymddangos bod rhywun yn targedu'r llwybr celf yn fwriadol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae'n rhwystredig bod rhywun mynd ati i ddifetha'r hyn sydd wedi cael ei fwynhau gan gymaint o bobl yn yr ardal, ac felly wedi achosi cost ychwanegol i'r trethdalwr. Mae'r llwybr Art Afoot/Celf ar Droed yn dal i fod yn hygyrch ac rydym yn ceisio ailosod yr arwyddnodau hyn cyn gynted â phosibl."

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101, gan ddyfynnu Rhif Cyfeirnod Troseddau 25000060212.