English icon English
ysgol noddfa Doc Penfro

Yr ysgol gyntaf yn Sir Benfro i ennill gwobr Ysgol Noddfa

First school in Pembrokeshire wins School of Sanctuary award

Mae ymrwymiad ysgol yn Sir Benfro i fod yn lle diogel a chroesawgar i bobl sy'n ceisio noddfa wedi cael ei gydnabod gydag anrhydedd bwysig.

Ysgol Gymunedol Doc Penfro yw'r ysgol gyntaf yn y Sir i dderbyn gwobr Ysgol Noddfa genedlaethol.

Mae'n ymuno â rhwydwaith cenedlaethol o fwy na 380 o ysgolion cynradd ac uwchradd, meithrinfeydd a lleoliadau chweched dosbarth sydd wedi ymrwymo i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant i'r rheiny sy'n chwilio am noddfa.

Mae'r ysgol wedi croesawu teuluoedd o wledydd sydd wedi cael eu distrywio gan ryfel, gan gynnwys Syria ac Wcráin, ac mae wedi ymrwymo i ddysgu am y rhesymau dros fudo a dadleoli yn ogystal â'r effaith y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd.

Mae hefyd yn cynnig lle diogel i'r rheiny sy'n cael trafferthion gartref neu'r rheiny sydd angen teimlo'n fwy diogel.

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau Aur o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ar ôl gwreiddio'r egwyddorion yn ethos a chwricwlwm yr ysgol.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod plant sy'n ffoaduriaid yn mwynhau'r un hawliau â phob plentyn.

Dywedodd Arweinydd yr Ysgol Noddfa, Jenny Cottrell: "Mae'n anrhydedd ac yn fraint cael cydweithio'n agos â'n teuluoedd sy’n ffoaduriaid. Mae eu profiadau a'u gwydnwch wedi peri i fi deimlo’n wylaidd.'"

Dywedodd y Pennaeth, Michele Thomas: "Rwy'n falch iawn o'n cymuned ysgol gyfan, lle mae'r disgyblion wedi dysgu am beth mae'n ei olygu i fod yn chwilio am noddfa. 

"Rydym wedi gwreiddio cysyniadau o groeso, diogelwch a chynhwysiant trwy weithredu ac mae disgyblion yn deall pam mae rhai pobl wedi cael eu dadleoli trwy rym.

"Mae gwybod bod ein hysgol yn cael ei chyfoethogi gan newydd-ddyfodiaid, a’n bod ni’n cefnogi dysgwyr o bob cefndir fel eu bod yn teimlo bod croeso iddyn nhw, eu bod nhw’n cael cefnogaeth ac yn cael eu cynnwys, yn hynod bwysig."

Llongyfarchodd Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, yr ysgol ar ei llwyddiant.

"Dylai staff a disgyblion Ysgol Gymunedol Doc Penfro i gyd fod yn hynod falch o'r gwaith maen nhw wedi'i wneud i sicrhau bod gan blant sy'n chwilio am noddfa, a phob plentyn arall, le i deimlo'n saff a diogel."