Ysgol harri Tudur

Ysgol a'r Cyngor yn ymrwymo i wella'n gyflym yn Ysgol Harri Tudur

School and Council commit to rapid improvement at Ysgol Harri Tudur

Rhannu:

Mae'r arolygiaeth addysg Estyn wedi rhoi Ysgol Harri Tudur mewn mesurau arbennig.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod canfyddiadau arolygiad Estyn o Ysgol Harri Tudur, a gyhoeddwyd yn dilyn ymweliad ym mis Rhagfyr 2025.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o bryderon difrifol ynglŷn ag arweinyddiaeth, diogelu, ansawdd yr addysgu, cynnydd disgyblion, presenoldeb a chynllunio'r cwricwlwm. Mae Estyn felly wedi barnu bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol.

Mae'n bwysig nodi cryfderau canlynol yr ysgol:

  • Mae staff yn gweithio'n galed i greu awyrgylch gofalgar, cefnogol, ac mae llawer o ddisgyblion o’r farn eu bod yn cael eu cefnogi’n dda ac yn ddiogel yn yr ysgol.
  • Mae'r Ganolfan Dysgu â Chymorth yn darparu ystod werthfawr o ymyriadau sy'n cefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion sy'n agored i niwed yn llwyddiannus.
  • Mae staff yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn creu perthnasoedd cadarnhaol ac yn creu amgylchedd diogel, cefnogol.
  • Mae'r cwricwlwm ABCh wedi'i gydlynu'n dda ac yn darparu canllawiau defnyddiol ar berthnasoedd, hunaniaeth, iechyd rhywiol, grymuso, diogelwch a pharch.
  • Mae disgyblion yn elwa o ystod eang o gyfleoedd arweinyddiaeth, gan gynnwys y cyngor ysgol a Senedd yr ysgol gyfan.

Canfu arolygwyr nad yw tua hanner y disgyblion yn gwneud cynnydd digonol, a llawer yn profi addysgu anghyson neu wan, disgwyliadau isel, a chyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu sgiliau allweddol ar draws y cwricwlwm. Tynnwyd sylw hefyd at ddiffygion mewn hunanwerthuso, cynllunio gwella, rheoli ymddygiad, canllawiau diogelu ac atebolrwydd staff.

Mae'r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad allweddol, gan gynnwys mynd i'r afael â phryderon diogelu, cryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, gwella addysgu a phresenoldeb, a sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd ystyrlon i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol a'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm.

Mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i sicrhau bod argymhellion Estyn yn cael eu gweithredu ar unwaith. Bydd cynllun gwella carlam yn cael ei roi ar waith, wedi’i gefnogi gan fonitro rheolaidd gan Estyn bob pedwar i chwe mis.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Rydyn ni'n cymryd canfyddiadau Estyn o ddifrif. Nid yw'r diffygion a nodwyd - yn enwedig o ran diogelu, arweinyddiaeth, cynnydd disgyblion a chysondeb addysgu - yn dderbyniol i unrhyw un o'n dysgwyr ac mae angen i'r ysgol fynd i’r afael â nhw ar frys gyda chefnogaeth yr Awdurdod Lleol.

“Rydym bellach yn rhoi rhaglen o welliant cyflym, pendant ar waith yn Ysgol Harri Tudur. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth gref, wedi'i dargedu ynghyd â her gadarn a pharhaus.

“Mae ein hymrwymiad yn glir: byddwn yn gweithio'n ddi-baid gydag arweinyddiaeth, llywodraethwyr a staff ehangach yr ysgol i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn yr addysg, y gofal a'r dyhead o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu.”

Bydd y Cyngor yn rhoi mwy o gymorth i wella’r ysgol a chapasiti’r arweinwyr. 

Gan weithio ochr yn ochr â'r llywodraethwyr, ac arweinwyr yr ysgol, mae gweithdrefnau diogelu a chanllawiau staff yn cael eu cryfhau ar frys.

Mae gweithredu systemau monitro, atebolrwydd a pherfformiad cadarn trwy ein bwrdd gwella aml-asiantaeth yn bwysig wrth sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael ei gysoni’n gyflym â’r gwendidau a nodwyd.