Llwyddiant Ysgol Bro Gwaun yn y Marc Diogelwch Ar-lein yn unigryw yng Nghymru
Ysgol Bro Gwaun’s Online Safety Mark success unique in Wales
Mae gan Ysgol Bro Gwaun “ymagwedd glir a chyson ac mae pawb yn gyfrifol am ddiogelwch ar-lein”, gan arwain at ddyfarnu gwobr fawreddog y Marc Diogelwch Ar‑lein.
Ymwelodd aseswr SWGfL (Grid Dysgu’r De-orllewin) ag Ysgol Bro Gwaun yn gynharach eleni i adolygu darpariaeth diogelwch ar-lein yr ysgol ac fe amlygodd ymagwedd glir a chyson yr ysgol.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu â staff yr ysgol, rheini a gofalwyr, llywodraethwyr a disgyblion ac roedd yn falch o weld bod yr ysgol yn cynnig lefel uchel o amddiffyniad i ddefnyddwyr technolegau digidol.
“Mae dysgwyr yn ymddiried yn y staff i weithredu er eu lles pennaf ac yn credu bod staff yn gwybod ac yn deall y ffordd orau i’w cefnogi, beth bynnag fo’r amgylchiadau” dywedodd yr aseswr, gan ychwanegu: “roedd dysgwyr yn glir iawn eu barn bod yr ysgol yn cynnig darpariaeth ddiogelwch ar-lein wych iddynt er mwyn sicrhau y gallant fod yn ddefnyddwyr diogel, cyfrifol a chraff o dechnolegau digidol.”
Mae SWGFL yn elusen nid er elw sy’n sicrhau bod pawb yn gallu elwa ar dechnoleg yn rhydd rhag niwed ac mae’n cyfrif am draean o Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.
Yn dilyn yr ymweliad, dyfarnwyd y Marc Diogelwch Ar-lein i Ysgol Bro Gwaun ac, ar hyn o bryd, dyma’r unig ysgol uwchradd yng Nghymru sydd â’r wobr fawreddog hon.
Dywedodd y pennaeth, Paul Edwards: “Mae cyflawni’r nod diogelwch ar-lein 360‑gradd yn gyflawniad gwych ac mae’n arwydd o’r pwysigrwydd y mae’r ysgol yn ei roi ar amddiffyn ein pobl ifanc wrth iddynt lywio’r byd digidol.
“Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod wedi cyflawni’r nod diogelwch hwn a llongyfarchiadau i’r tîm a weithiodd mor galed i sicrhau mai YBG yw’r unig ysgol uwchradd yng Nghymru sydd â’r wobr hon.”
Llongyfarchodd Ron Richards, Aseswr Arweiniol yr ysgol ar ei llwyddiant. Ychwanegodd ei fod yn galonogol gwybod bod yr ysgol wedi rhoi llawer o ystyriaeth ac ymdrech i wella diogelwch ar-lein staff a phobl ifanc, trwy fynd i’r afael â materion diogelu pwysig.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r ysgol ac yn ffactor pwysig wrth sicrhau diogelwch ar-lein pawb yn Ysgol Bro Gwaun.”