Ysgol Glannau Gwaun yn dathlu gwobr Teithio Llesol Aur fawreddog
Ysgol Glannau Gwaun celebrates prestigious Gold Active Travel award
Cafwyd dathliadau arbennig i ddisgyblion Ysgol Glannau Gwaun ar ôl dod yn un o ddim ond naw ysgol yng Nghymru i gyrraedd statws Teithio Llesol Aur.
Yn ddiweddar, teithiodd disgyblion o'r ysgol i'r Senedd yng Nghaerdydd i dderbyn eu Gwobr Teithio Llesol Aur Cerdded, Olwyno, Beicio.
Dyma'r ail dro i ddisgyblion Glannau Gwaun fynd tua'r brifddinas i gyflwyno eu holl brosiectau teithio llesol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mae gan yr ysgol bellach fflyd o 60 o sgwteri a 40 o feiciau, sy'n galluogi plant o'r Feithrinfa hyd at Flwyddyn 6 i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder.
Trwy amrywiaeth o grantiau a chyfleoedd ariannu, mae'r ysgol yn darparu sesiynau beicio a sgwtio wythnosol i bob disgybl, waeth beth fo'u hoedran neu eu gallu.
Yn 2023, dim ond 11 o 41 o ddisgyblion oedd yn gallu cwblhau eu hyfforddiant beicio Lefel 1 a 2 oherwydd nad oedd gan lawer ohonynt feic ond ers hynny mae'r ysgol wedi gweithio'n galed i ddatrys hynny a diolch i fuddsoddiad mewn beiciau ysgol, gall pob disgybl bellach gymryd rhan mewn hyfforddiant beicio. Mae disgyblion hŷn hefyd yn cefnogi dysgwyr iau trwy arwain sesiynau beicio cydbwysedd a sgwtio.
Mae disgyblion Cam 3 wedi dylunio llwybr sgwteri cymunedol 1.5km, sy'n dechrau yn Llyfrgell Abergwaun ac yn gorffen yn Wdig sydd nid yn unig iddyn nhw ond i'r gymuned gyfan. I hyrwyddo teithio llesol ymhellach, mae'r ysgol yn benthyg sgwteri i deuluoedd, gan sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan.
Mae staff hefyd yn helpu i gynnal bws cerdded i weithgareddau cerddoriaeth ar ôl ysgol yn yr ysgol uwchradd, tra bod Senedd yr Ysgol yn datblygu mentrau newydd yn rheolaidd i annog teithio llesol, fel sgwtathon chwe awr diweddar a gododd £1,000 i'r RNLI.
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr ysgol ddiwrnod dathlu arbennig i'r holl ddisgyblion i nodi'r cyflawniad arwyddocaol lle cyflwynodd Fusion Extreme weithdai BMX, a gwnaeth pencampwr BMX Prydain, Matti Hemmings, argraff ar bawb gydag arddangosfa ysblennydd o sgiliau.
Cyflwynodd disgyblion hefyd y daith i ennill statws Aur i rieni, llywodraethwyr a phartneriaid cymunedol, gan gynnwys Transition Bro Gwaun, a helpodd i ariannu fflyd beiciau'r ysgol.
Dywedodd y Pennaeth Mrs Mari Jones: "Rwy'n hynod falch o'n disgyblion, mae eu brwdfrydedd, eu harweinyddiaeth a'u hymrwymiad wedi ysgogi llawer o'r mentrau a gyfrannodd at y wobr hon."
Ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth Mrs Sharon Osborne: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Sir Benfro, Alice, o'r Walk, Wheel, Cycle Trust, Transition Bro Gwaun a Sefydliad Catrin Vaughan am eu cefnogaeth.
"Mae eu cyllid a'u hadnoddau wedi galluogi ein disgyblion i ddatblygu sgiliau beicio a sgwtio rhagorol, ochr yn ochr â sgiliau arwain a chyfathrebu gwerthfawr. Yn sgil hyn, mae’r disgyblion wedi cyflwyno eu cyflawniadau yn hyderus i ystod eang o gynulleidfaoedd."
Mae'r disgyblion yn glir nad yw eu taith teithio llesol yn dod i ben yma. Gyda llawer o syniadau newydd eisoes yn cael eu cynllunio, mae llawer mwy i ddod o Ysgol Glannau Gwaun. Fel y dywed y disgyblion yn falch, does dim byd yn sefyll yn llonydd yn Ysgol Glannau Gwaun!