
Ysgol Gymunedol Pennar yn cipio gwobr amgylcheddol genedlaethol
Pennar Community School scoop national environmental prize
Mae ffocws amgylcheddol gwych disgyblion a staff Ysgol Gymunedol Pennar yn cael ei ddathlu unwaith eto wrth iddynt ennill gwobr Her Hinsawdd Cymru gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Yn ddiweddar, enillodd yr ysgol yr her arloesi yn y categori Adeiladu Byd Diwastraff, gyda ffilm ysbrydoledig yn dogfennu eu hymgyrch i fynd i’r afael â gwastraff yn yr ysgol ac yn y cartref.
Cyflwynwyd eu gwobr iddynt mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd y mis diwethaf.
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, yn arddangos gwaith amgylcheddol ysgolion ledled Cymru.
Roedd pob dosbarth yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar wastraff yn ystod tymor y gwanwyn, o lygredd plastig i ffasiwn cyflym.
Mae dosbarthiadau Blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn monitro faint o wastraff bwyd a gynhyrchir yn yr ysgol ac wedi bod yn gweithio gyda Jennifer James o elusen Awel Aman Tawe i leihau gwastraff bwyd.
Dywedodd Siân Taylor, Arweinydd Cynaliadwyedd yr ysgol: “Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn yn Ysgol Pennar, ac mae’r gwaith amgylcheddol dan arweiniad Tîm Gwyrdd yr ysgol wedi’i ymgorffori yn ein cwricwlwm sy’n esblygu’n gyson.
“Cafodd y prosiect gwastraff ei ysbrydoli gan y materion a godwyd yn COP (Cynhadledd Pennar) ein cynhadledd hinsawdd flynyddol ac felly mae’r gwaith wir wedi ei arwain gan y dysgwyr. Mae pob disgybl ac aelod o staff wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, ac mae’n parhau yn yr ysgol. Rydym wrth ein bodd bod eu gwaith caled a’u hymroddiad nhw wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau Her Hinsawdd Cymru.”
Ychwanegodd Jennifer o Awel Aman Tawe: “Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweithio gyda disgyblion sydd â chymaint o ddiddordeb ar draws yr ysgol gyfan. Gwobr wirioneddol haeddiannol.”
Mae’r Tîm Gwyrdd hefyd wedi bod yn lleihau defnydd ynni’r ysgol ac ar hyn o bryd maent ar frig tabl cynghrair Sparcynni Cymru. Mae gwaith y tîm hefyd wedi arwain at gyflawni Gwobr Platinwm Eco-Sgolion yn ddiweddar.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae’r rhain yn gyflawniadau gwych i Ysgol Gymunedol Pennar, mae’r staff a’r disgyblion yn dangos ymrwymiad aruthrol i’w gwaith yn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’n wych i’w weld, da iawn bawb!”
Edrychwch ar yr hyn y mae’r disgyblion wedi bod yn ei wneud ar dudalen enillwyr gwobrau hinsawdd Cadwch Gymru’n Daclus!