Ysgol Gynradd Prendergast yn ennill gwobr rhagoriaeth Eco-Ysgolion cenedlaethol
Prendergast CP School wins national Eco-Schools excellence award
Mae Ysgol Gynradd Prendergast yn Hwlffordd yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Matt Bunt am Ragoriaeth Eco-Ysgolion yng Ngwobrau Cymru Daclus eleni.
Mae'r wobr, sy'n cael ei chynnal gan Cadwch Gymru'n Daclus, yn cydnabod ysgolion sy'n dangos ymrwymiad rhagorol i weithredu amgylcheddol drwy'r rhaglen Eco-Ysgolion.
Cafodd Ysgol Prendergast ei chydnabod am gynnwys gweithredu amgylcheddol yn holl fywyd yr ysgol, gyda disgyblion, staff, teuluoedd a sefydliadau partner yn gweithio gyda'i gilydd i wella bioamrywiaeth, cryfhau dysgu yn yr awyr agored a gofalu am y byd naturiol.
Ers dechrau'r gwaith, mae disgyblion wedi helpu i ddatblygu Prendergardd ac Ardal Wyllt yr ysgol fel mannau bioamrywiaeth a dysgu yn yr awyr agored. Mae eu gwaith wedi cynnwys arolygon bywyd gwyllt, chwilota mewn pyllau, trapio gwyfynod, gwylio adar, arolygon ystlumod, prosiectau peillwyr, adnabod coed, plannu blodau gwyllt a chreu cynefinoedd.
Mae'r prosiect wedi'i ymgorffori yng Nghwricwlwm Cymru, ac mae disgyblion yn defnyddio tiroedd yr ysgol fel cyd-destun bywyd go iawn ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm ac yn datblygu ymdeimlad cryf o gynefin neu berthyn.
Mae grŵp llais disgyblion Eco Warriors yr ysgol wedi helpu i arwain syniadau, rhannu’r hyn y maent yn ei ddysgu ac annog eraill i weithredu. Mae teuluoedd a'r gymuned ehangach hefyd wedi bod yn rhan o weithgareddau fel Diwrnodau Groundforce, sesiynau chwilota mewn pyllau i’r teulu a thaith gerdded ystlumod cymunedol a ddenodd mwy na 60 o bobl.
Mae'r wobr hefyd yn cydnabod gwaith cynaliadwyedd ehangach yr ysgol, gan gynnwys Big Bocs Bwyd, sy'n cysylltu tyfu bwyd, coginio, bwyta'n iach, lleihau gwastraff a chefnogaeth gymunedol.
Dywedodd Cadwch Gymru'n Daclus fod yr ysgol wedi creu argraff ar y beirniaid gyda sut mae gweithredu amgylcheddol wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd yn Ysgol Gynradd Prendergast, ac mae tystiolaeth glir o effaith trwy welliannau i fioamrywiaeth, hyder cynyddol disgyblion, cyfranogiad cymunedol a sgyrsiau cadarnhaol rhwng dysgwyr, teuluoedd a staff.
Dywedodd Louise John, Pennaeth Ysgol Gynradd Prendergast: "Rydym yn hynod falch o'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon ac o'r disgyblion, staff, teuluoedd a phartneriaid sydd wedi ei gwneud yn bosibl.
“Mae'r wobr hon yn rhoi cyfle gwych i ni rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu gydag ysgolion eraill, yn lleol ac yn genedlaethol, ac i gydweithio ar fioamrywiaeth, dysgu awyr agored a gweithredu amgylcheddol dan arweiniad disgyblion.”
Ychwanegodd Ellie Power, Arweinydd Dysgu Awyr Agored ac Eco-Ysgolion yn Ysgol Gynradd Prendergast: "Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd enfawr ac yn cydnabod y chwilfrydedd, y gofal a'r arweinyddiaeth y mae ein disgyblion yn eu dangos wrth ofalu am dir ein hysgol a’r bywyd gwyllt lleol. Rydym yn ddiolchgar i'r arbenigwyr a'r partneriaid y mae eu harweiniad wedi ein helpu i wneud dewisiadau gwybodus ar gyfer bioamrywiaeth, wedi'u gwreiddio yn ein cynefin ac wedi'u hadeiladu ar gyfer y dyfodol."