Ysgolion cynradd yn mwynhau blas o opera mewn tri pherfformiad arbennig
Primary schools enjoy a taste of opera at three special performances
Daeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ag ABC of Opera i Hwlffordd er mwyn i blant ysgol fwynhau perfformiad byw arbennig yn ddiweddar.
Perfformiodd ABC of Opera, a sefydlwyd gan y canwr opera enwog Mark Llewelyn Evans, The Crazy Classicals a The Curse mewn tair sioe ar 9 a 10 Gorffennaf.
Roedd bron i 1,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd wrth eu bodd yn cyfuno pantomeim ac opera lle mae Brenhines y Nos fileinig yn dianc o Opera Mozart, The Magic Flute, ac yn ceisio cael gwared ar gerddoriaeth am byth. Yn cynnwys llu o gyfansoddwyr clasurol a Trevor the Trunk, maent yn cydweithio â'r plant i'w hatal.
Roedd y cast yn cynnwys saith canwr opera proffesiynol, a'r gerddorfa'n cynnwys staff o Wasanaeth Cerdd Sir Benfro, disgyblion hŷn o ensembles cerddoriaeth Sir Benfro a gwesteion gwadd.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, Philippa Roberts: "Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro yn falch iawn o bartneru gyda ABC of Opera i ddod â phrofiad cerddoriaeth fyw anhygoel i'n myfyrwyr, gan roi cyflwyniad gwych i Opera i ddisgyblion mewn amgylchedd hwyliog a difyr.
"Roedd y fenter hon, a wnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, yn gweld ein staff a'n disgyblion yn perfformio ochr yn ochr yn y gerddorfa gyda lleisiau proffesiynol."
Nod ABC of Opera yw cyflwyno gwersi bywyd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc drwy roi golwg fywiog o fywydau a cherddoriaeth y cyfansoddwyr mawr, creu cymeriad, dathlu gwahaniaeth ac annog creadigrwydd. "Gall Unrhyw Un Wneud Gydag ABC."