
Ysgrifennydd y Cabinet yn agor Ysgal Gynradd wedi'i adnewyddu yn Hwlffordd
Cabinet Secretary opens refurbished Haverfordwest Primary School
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS wedi agor Ysgol Gynradd Waldo Williams yn Hwlffordd yn swyddogol.
Roedd y gwaith adnewyddu gwerth £3.5 miliwn ar hen Ysgol Glan Cleddau yn Scarrowscant Lane yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Airey ac Ysgol WR yr Eglwys yng Nghymru Hwlffordd i ffurfio Ysgol Gynradd Waldo Williams. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad pellach yn ystâd ysgolion Sir Benfro gyda’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro fel rhan o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Symudodd Ysgol Gynradd Waldo Williams i’w hadeilad newydd ym mis Chwefror 2022 yn dilyn rhaglen adnewyddu a oedd yn cynnwys ailfodelu ac adnewyddu mewnol, uwchraddio mecanyddol a thrydanol ac inswleiddio allanol i’r to a’r waliau.
Mae 228 o blant ar gofrestr yr ysgol ar hyn o bryd.
Croesawyd y gweinidog i’r ysgol yn gynharach heddiw (dydd Iau, 30 Ionawr) gan y Cyng. Steve Alderman, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, a’r Pennaeth Ysgol Alan Davies.
Dywedodd Mr Davies fod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu cyfleuster addysgol rhagorol a’i fod “wedi arwain at amgylchedd modern ac ysgogol a oedd wedi galluogi’r ysgol i gyflawni ei gwerthoedd craidd a’i hymrwymiad nid yn unig i lwyddiant academaidd ond hefyd i dwf a datblygiad personol”.
Cyn dadorchuddio plac, dywedodd Lynne Neagle wrth y disgyblion: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r gwaith o adnewyddu Ysgol Gynradd Waldo Williams drwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Rydym am roi’r amgylchedd gorau i’n dysgwyr ddysgu ynddo a bydd yr ysgol fodern hon yn rhoi’r sylfeini cryfaf i’n dysgwyr ifanc, gan greu gofod lle gallant oll ffynnu. Hoffwn ddiolch i bawb yn yr ysgol am groeso mor gynnes.”
Yn ddiweddarach aeth am dro o amgylch yr ysgol.
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Addysg a’r Gymraeg, y Cyng. Guy Woodham, ei fod yn falch iawn o allu dathlu agoriad yr ysgol a nodi ymrwymiad y cyngor i ddarparu amgylcheddau dysgu ar gyfer yr 21ain ganrif.
Ychwanegodd y Cynghorydd Woodham: “Hoffwn ddiolch am waith caled swyddogion a chontractwyr fel rhan o’r cyfnod dylunio ac adeiladu, ac i brifathrawon a staff Ysgol Gynradd Waldo Williams am sicrhau llwyddiant yr ysgol”.
Y prif gontractwyr ar gyfer y prosiect oedd y cwmni adeiladu lleol, WB Griffiths Ltd.