
Ysgrifennydd y Cabinet yn agor ysgol Gymraeg newydd
Cabinet Secretary opens new Welsh School
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS wedi agor yn swyddogol yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer plant tair i 11 oed a adeiladwyd ym Mhenfro.
Mae adeilad newydd £13.9 miliwn Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn cynrychioli buddsoddiad pellach mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, (Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg), (Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant) a Chyngor Sir Penfro.
Agorodd Ysgol Bro Penfro i ddisgyblion fis Medi diwethaf ac ar hyn o bryd mae 148 o blant ar gofrestr yr ysgol.
Mae’r datblygiad yn darparu:
- 33 o leoedd darpariaeth gofal dydd llawn drwy gydol y flwyddyn
- meithrinfa â 30 o leoedd
- darpariaeth gynradd 210 o leoedd
Croesawyd y gweinidog i’r ysgol yn gynharach heddiw (dydd Iau, 30 Ionawr) gan y Cyng. Steve Alderman, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, a’r Pennaeth Gweithredol Dafydd Hughes.
Dywedodd Mr Hughes fod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro wedi cynhyrchu cyfleuster addysgol rhagorol a’i fod yn “cynrychioli pennod newydd gyffrous i addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro, gan ddilyn yn ôl troed Ysgol Hafan y Môr yn Ninbych-y-pysgod, ac Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd”.
Cyn dadorchuddio plac, dywedodd Lynne Neagle wrth y disgyblion: “Mae’n fraint cael agor yr ysgol newydd wych hon yn swyddogol a gweld yn uniongyrchol sut y bydd yn grymuso dysgwyr Ysgol Gymraeg Bro Penfro, yn ogystal â darparu gofal plant Dechrau’n Deg. Mae’r buddsoddiad hwn, drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg ac i gyrraedd targedau Cymraeg 2050. Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Sir Penfro a phawb sydd wedi helpu i wireddu’r cyfleuster hynod hwn.”
Yn ddiweddarach bu ar daith o amgylch yr ysgol newydd.
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Addysg a’r Gymraeg, y Cyng. Guy Woodham, fod y cyfleuster newydd yn garreg filltir arwyddocaol yn y modd y mae’r cyngor yn cyflawni ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA), a diolchodd am waith caled swyddogion a chontractwyr yn cyflwyno’r ysgol newydd yn unol â’r gyllideb ac yn brydlon.
Ychwanegodd y Cynghorydd Woodham: “Dyma ddiwrnod hanesyddol arall i’r Gymraeg yn Sir Benfro. Mae agor ysgol Gymraeg newydd sbon i wasanaethu cornel de-orllewin y sir yn gam hynod arwyddocaol ymlaen, ac yn deyrnged deilwng i’r seiliau cadarn a osodwyd gan ffrwd Gymraeg flaenorol Ysgol Gelli Aur. Mae Ysgol Gymraeg Bro Penfro’n dangos bod statws y Gymraeg yn cael ei gefnogi’n llwyr gan Gyngor Sir Penfro, ac mae fy llongyfarchiadau diffuant i bawb sydd wedi gweithio i wneud hyn yn bosibl.”
Y prif gontractwyr ar gyfer y prosiect oedd Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd.