Llongyfarch myfyrwyr Safon Uwch a Safon UG yn Sir Benfro
A-level and AS-level students congratulated in Pembrokeshire
Mae Cyngor Sir Penfro yn llongyfarch yr holl ddysgwyr Safon Uwch, UG a galwedigaethol sydd wedi derbyn canlyniadau heddiw.
Mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ddiweddar ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae penderfyniad, gwydnwch a’r gallu i addasu mewn cyfnod heriol yn adlewyrchu’r sgiliau ychwanegol oedd eu hangen ar ddysgwyr sydd wedi derbyn canlyniadau heddiw.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Rydyn ni’n llongyfarch yr holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau.
“Mae parhau i drosglwyddo’n ôl i sefyll arholiadau allanol wedi bod yn her y mae’r dysgwyr hyn wedi’i chyflawni’n llwyddiannus.
“Dylid canmol a dathlu cyflawniadau dysgwyr. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer eu dyfodol.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Steven Richards-Downes, “Bydd pob dysgwr yn derbyn canlyniadau heddiw a fydd yn creu posibiliadau newydd iddyn nhw.
“Rydyn ni’n cydnabod yr heriau mawr maen nhw wedi’u hwynebu a sut maen nhw wedi eu goresgyn trwy benderfyniad, gwaith caled a’r cymorth gan staff addysg.
“Mae eu hymroddiad nhw ac ymroddiad y staff addysg wedi bod yn rhyfeddol. Rwy’n dymuno hapusrwydd a llwyddiant parhaus i bob dysgwr.
“Rydyn ni hefyd yn diolch heddiw i deuluoedd myfyrwyr sydd wedi bod yn gefn iddyn nhw trwy gyfnod heriol iawn yn eu bywydau.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr holl ddysgwyr yn gallu mynd ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau neu addysg â diben, urddas a balchder.”