Cwlwm what is culture to you? Beth yw diwylliant i chi?

Adeiladu Diwylliant Gwell: Dweud eich dweud!

Building Better Culture: Have your say!

Rhannu:

Mae partneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng cynghorau Powys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gwahodd y cyhoedd i helpu i lunio gweledigaeth ddiwylliannol gyffredin ar gyfer y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Sir Powys, mae Partneriaeth Diwylliant Strategol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dod â'r pedwar awdurdod ynghyd am y tro cyntaf i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r prosiect wedi'i seilio ar Flaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant wrth ddod â chymunedau ynghyd, dathlu Cymru fel cenedl ddiwylliant a chreu cyfleoedd newydd.

Wrth wraidd y prosiect mae ymrwymiad i wrando. Mae trigolion, cymunedau, pobl greadigol a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu eu barn er mwyn sicrhau bod y weledigaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl leol ar draws un o ranbarthau mwyaf amrywiol a gwledig Cymru.

Dweud eich dweud

Mae trigolion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar yr hyn y mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw fel rhan o gyfres o sesiynau gweithdy galw heibio ac ar-lein ym mis Mehefin eleni.

Wedi'u cyflwyno drwy brosiect Cwlwm (Golwg Creadigol), bydd y sesiynau'n dod â phobl ynghyd i archwilio gwahanol ddehongliadau o ddiwylliant, o'r celfyddydau a'r theatr i dreftadaeth leol, llyfrgelloedd a digwyddiadau cymunedol, er mwyn helpu i lunio gweledigaeth newydd ar gyfer diwylliant ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Mae pob sesiwn ar agor i bawb, gyda dewisiadau iaith Cymraeg a Saesneg ar gael, ar yr amseroedd a lleoliadau canlynol:

       

11 Mehefin 

Sesiwn Galw Heibio (11.00 - 13.00 / 14.00 - 16.00) 

Neuadd y Dref Abergwaun 

Fishguard Town Hall 

  

Gweithdy gyda'r nos (19-20.30) 

Neuadd y Dref Abergwaun 

Fishguard Town Hall 

22 Mehefin 

Sesiwn Galw Heibio (11-17) 

Llyfrgell Doc Penfro 

Pembroke Dock Library 

  

Gweithdy gyda'r nos (19-20.30) 

Llyfrgell Doc Penfro 

Pembroke Dock Library 

Fel arall, gallwch rannu eich barn drwy’r holiadur ar-lein:

https://forms.gle/2HBhWt9kwA5bHVHi9 https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc0iqghFDFKAZHnMZEPMlzs11llj_rWUl1IG4qWPWh21A1Ejg/viewform

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw: Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026