Dyn gyda pen a laptop

Adolygiad archwilio o drefniadau yswiriant y Cyngor

Audit review of the Council’s insurance arrangements

Rhannu:

Mae Arweinydd y Cyngor wedi gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gychwyn adolygiad o drefniadau yswiriant y Cyngor i roi sicrwydd eu bod yn gadarn, yn addas i'r diben ac yn darparu gwerth am arian.

Mae'r adolygiad yn dilyn derbyn y setliad yswiriant ar gyfer Ysgol WR yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr yn dilyn y tân ym mis Hydref 2022, a achosodd ddifrod helaeth a dinistrio'r to ar oleddf.

Mae'r cam hwn yn amlygu ymrwymiad parhaus yr Awdurdod i dryloywder, atebolrwydd, a stiwardiaeth gyfrifol o arian cyhoeddus.

Bydd yr adolygiad hefyd yn asesu a yw trefniadau, polisïau ac arferion yswiriant cyfredol yn sicrhau bod asedau cyhoeddus yn cael eu prisio, eu hyswirio a'u hadfer yn briodol mewn achos o golled neu ddifrod.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn rhagweithiol i gryfhau trefniadau llywodraethu a sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i fodloni'r safonau uchaf o reolaeth ariannol. Bydd yr adolygiad yn nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer gwella hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd y Cyngor: "Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod yr holl asedau cyhoeddus yn cael eu diogelu a'u hyswirio'n briodol.  Bydd yr adolygiad hwn yn rhoi sicrwydd i drigolion a rhanddeiliaid bod ein trefniadau yswiriant yn effeithiol a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu.”