Officers and councillors outside new homes in St Davids

Ail gam datblygiad tai yn barod ar gyfer preswylwyr

Second phase of housing development ready for residents

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu cwblhau cam dau Maes y Felin yn Nhyddewi.

Mae'r datblygiad, a adeiladwyd gan GRD Homes, bellach yn cynnwys cyfanswm o 18 o gartrefi ar ffurf dau gam.

Cwblhawyd Cam Un Llys Glas Fryn ym mis Ionawr 2025, gan ddarparu saith byngalo un a dwy ystafell wely wedi'u dyrannu drwy bolisi gosod lleol a ddatblygwyd gyda Chyngor Dinas Tyddewi.

Mae trigolion Llys Glas Fryn wedi bod â rôl weithredol wrth lunio eu cymuned.

Trwy ryngweithio ac ymgysylltu yn rheolaidd â thrigolion preifat cyfagos, maent wedi helpu i greu amgylchedd croesawgar, cynhwysol sy'n annog cyfranogiad cymunedol, yn cryfhau cysylltiadau lleol ac yn cefnogi cydlyniant hirdymor gan gyfrannu at egni parhaus Dinas Tyddewi.

Mae cwblhau Llys Glas Fryn a Maes y Felin yn garreg filltir arwyddocaol yn Rhaglen Datblygu Tai'r Cyngor, gan ddangos ei ymrwymiad parhaus i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Sir Benfro.

Bydd cwblhau'r cartrefi hyn, sydd o ansawdd uchel, yn helpu i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, sydd eu hangen yn fawr, ac yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng tai presennol ledled Sir Benfro.

Mae Maes y Felin yn cynnwys un ar ddeg byngalo dwy ystafell wely, sy'n cynnig cymysgedd o rent cymdeithasol a chanolradd. Mae darparu ystod o ddeiliadaeth fforddiadwy yn helpu i greu datblygiadau cytbwys, cynhwysol sy'n diwallu anghenion tai amrywiol.

Mae'r holl gartrefi wedi'u hadeiladu i fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu diweddaraf Llywodraeth Cymru ac maent yn effeithlon iawn o ran ynni, gan gyflawni sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni A. Mae paneli solar wedi’u gosod ar bob eiddo i helpu i leihau costau ynni tenantiaid.

Mae'r holl adeiladau dan berchnogaeth Cyngor Sir Penfro, ac yn cael eu rheoli gan y cyngor.

Gan ategu y dull llwyddiannus a ddefnyddiwyd yn Llys Glas Fryn, bydd yr eiddo yn cael eu dyrannu drwy bolisi gosod lleol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Tyddewi.

Mae'r polisi wedi'i addasu rhywfaint o'r dyraniadau cam 1 gan ei fod yn cwmpasu ardal leol ehangach, gan roi cyfle i fwy o bobl leol wneud cais.

Bydd y dull hwn yn helpu trigolion i barhau i fyw yn eu cymuned eu hunain, gan gryfhau cydlyniant cymunedol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Rwy'n falch iawn o weld fod y cartrefi fforddiadwy newydd hyn yn Nhyddewi wedi eu cwblhau, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a theuluoedd lleol. Bydd y cartrefi newydd hyn yn helpu i sicrhau bod trigolion lleol yn cael y cyfle i fyw a ffynnu yn y cymunedau maen nhw'n falch ohonynt.

“Mae'r datblygiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth i ddarparu atebion tai cynaliadwy sy'n cefnogi ein cymunedau nawr ac yn y dyfodol."

Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o'r cartrefi fod â chais am dai sy’n gyfredol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu edrychwch ar dudalen Facebook Tai’r Cyngor: Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro | Facebook