English icon English
Kerbside Black Bag Feature Tile cropped

Aildrefnu casgliadau gwastraff oherwydd tarfu yn sgil eira

Snow disruption sees waste collections rescheduled

Diweddariad am eira: Mae casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu wedi cael eu hatal heddiw (dydd Iau, 18 Ionawr).

Mae ffyrdd ochr a phalmentydd heb eu trin wedi golygu na fydd cerbydau a chriwiau casglu yn gallu cael mynediad at y mwyafrif o gartrefi.

Bydd deunydd gweddilliol a chynnyrch hylendid amsugnol (AHP) a ddylai gael eu casglu heddiw (dydd Iau, 18 Ionawr) yn cael eu casglu ddydd Sadwrn, 20 Ionawr.

Gofynnir i gartrefi gadw eu deunydd ailgylchu tan y casgliadau’r wythnos nesaf.