Angen eich mewnbwn ar arolwg trigolion Sir Benfro
Pembrokeshire residents survey needs your input
Rydym yn annog trigolion Sir Benfro i gymryd rhan mewn arolwg ledled y sir i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau lleol a sicrhau bod eu barn yn cael eu clywed.
Nod yr arolwg ‘Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro’, a lansiwyd gan Gyngor Sir Penfro, yw casglu barn trigolion ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw a'u profiadau o fyw yn y sir.
Drwy gwblhau'r arolwg, bydd trigolion yn helpu'r Cyngor i gael gwell dealltwriaeth o:
- yr hyn sydd bwysicaf i bobl leol
- profiadau trigolion o'u cymunedau lleol
- safbwynt pobl ar Gyngor Sir Penfro a’u hymwneud â’r Cyngor
Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan gymaint o drigolion â phosibl ac mae'n annog pobl i rannu'r arolwg gydag aelodau'r teulu, ffrindiau a chymdogion i sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli.
Mae'r arolwg yn cynnwys 11 adran fer a bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rydym eisiau clywed gan gymaint o drigolion Sir Benfro â phosibl. P'un a ydych chi wedi byw yma ar hyd eich oes neu wedi symud i'r sir yn ddiweddar, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig.
"Bydd yr adborth a gawn drwy'r arolwg hwn yn ein helpu i ddeall yn well yr hyn sy'n bwysig i bobl, yr hyn sy'n gweithio'n dda yn ein cymunedau, a lle mae angen i ni wella. Mae'n gyfle gwerthfawr i drigolion ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau lleol.
"Mae pob ymateb yn cyfrif, a po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf o wybodaeth fydd gennym ni wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol ein sir."
Gall trigolion gymryd rhan ar-lein trwy fynd i dudalen we Dweud Eich Dweud.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 1 Tachwedd.
I'r rhai a fyddai'n well ganddynt gwblhau copi papur, gellir gwneud trefniadau drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar 01437 764551 neu drwy e-bostio policy@pembrokeshire.gov.uk.
Mae fersiynau Hawdd eu Darllen ar gael hefyd. Gellir casglu copïau papur a chopïau Hawdd eu Darllen o brif dderbynfa Neuadd y Sir, yn ogystal â llyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden ledled Sir Benfro.