Angen eich mewnbwn chi ar uwchgynllun ar gyfer goresgyn pwysau seilwaith ym Mhorthgain
A masterplan for overcoming traffic pressures at Porthgain needs your input
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y tir cyhoeddus a gwelliannau i'r priffyrdd ar gyfer pentref arfordirol prysur Porthgain wedi'i lansio.
Mae mwy o dagfeydd yn y pentref, un o brif fannau twristiaeth gogledd Sir Benfro, wedi achosi problemau rheoli traffig ac wedi cael effaith ar y trefniadau parcio presennol.
Datblygwyd pum opsiwn dylunio rhagarweiniol ar gyfer 'Porthgain i Bawb' i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn gweithdai gyda gweithgor lleol, Pobol Porthgain, ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP).
Mae Cronfa’r Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru wedi dyfarnu £248,000 i Gyngor Sir Penfro i ymgymryd â'r cynllun dwy flynedd, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Mae £62,000 arall o arian cyfatebol hefyd wedi'i nodi.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, yr Aelod Lleol a'r Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau: “Dyma'r cam nesaf i'r hyn sydd wedi bod yn broses tair blynedd sydd wedi ceisio ymgysylltu'n weithredol ac ymgynghori â'r trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol ym Mhorthgain.
“Nid ymarfer "newid er mwyn newid" yw hwn, ond ymgais a chyfle gwirioneddol i wneud rhai gwelliannau ar raddfa fach, heb newid cymeriad y pentref, a fydd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau sy'n deillio o fod yn gyrchfan mor brysur a phoblogaidd i dwristiaid."
Nod arolwg Porthgain i Bawb yw casglu adborth y cyhoedd ar yr opsiynau tir cyhoeddus ac ymyrraeth priffyrdd cychwynnol gyda'r nod o fynd i'r afael â thagfeydd, parcio, rheoli traffig a theithio i ymwelwyr trwy opsiynau cynaliadwy.
Byddem yn croesawu eich sylwadau ar yr opsiynau a'r wybodaeth a gyflwynir, gan gynnwys ar themâu sy'n ymwneud ag opsiynau trefniant, parcio, llif traffig, tirlunio, arwyddion a dewisiadau trafnidiaeth.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae'r arolwg hwn a'r opsiynau arfaethedig wedi'u llunio yn dilyn gweithdai amrywiol sy'n cynnwys trigolion a busnesau lleol Porthgain.
“Rydym yn gwahodd pawb sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'r pentref i gymryd rhan yn yr arolwg er mwyn helpu i lunio dyfodol Porthgain gan gadw ei rinweddau a'i swyn unigryw.”
Ewch i dudalen Dweud eich Dweud y Cyngor i roi eich barn ar y cynigion cyn 5pm, Mawrth 8fed.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gofrestru / mewngofnodi, e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) am gymorth.
Gallwch ein ffonio a gofyn i ni bostio copi papur atoch ar 01437 764551.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i'n gwefan: Sir Penfro.gov / Strategaeth Drafnidiaeth / Porthgain i bawb (yn agor mewn tab newydd)