Angen safbwyntiau ar gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau ar gyfer cynghorau tref a chymuned
Views wanted on Boundary Commission draft proposals for town and community councils
Mae'r adolygiad o drefniadau etholiadol yn ardal Prif Gyngor Sir Penfro a gynhaliwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyrraedd ei gam nesaf.
Heddiw (9 Gorffennaf) mae'r Comisiwn Ffiniau wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ynghyd â'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol ac Adolygiad Cymunedol Sir Benfro.
Mae'r cynigion yn cynnwys newidiadau i nifer o gymunedau yn Sir Benfro, yn ogystal â nifer y cynghorwyr, a nifer o newidiadau i ffiniau cymunedau, llawer ohonynt yn rhai mân.
Y prif nod yw darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rhan o hyn yw sicrhau bod cynrychiolaeth ar gynghorau tref a chymuned, i'r graddau y bo'n ymarferol, yn debyg ar draws pob cyngor cymuned yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd mae amrywiadau enfawr, hyd yn oed ar draws cymunedau gwledig.
Mae'r Comisiwn Ffiniau yn cydnabod bod cydbwyso'r ddeddfwriaeth â'r sylwadau a dderbyniwyd ym mis Hydref 2023, wedi bod yn anodd.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Neil Prior, Aelod Cabinet dros Gymunedau, Gwella Corfforaethol, a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: "Hoffem ddiolch i'r Cynghorau Tref a Chymuned, sefydliadau ac unigolion a gymerodd yr amser i gyflwyno sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad cychwynnol, a diolch i'r Comisiwn am eu gwaith ar yr adolygiad hyd yn hyn.
"Nawr bod cynigion clir i wneud sylwadau arnynt, rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn democratiaeth leol a'u cymuned yn lleisio eu barn yn ystod yr ail ymgynghoriad hwn."
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y Cynigion Drafft tan ddydd Llun, 2 Medi. Bydd pob sylw a gyflwynir wedyn yn cael eu hystyried gan y Comisiwn, a bydd argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Yna bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn naill ai fel y'u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau. Bydd unrhyw newidiadau a wneir gan Weinidogion yn dod i rym ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027.
Mae'r cynigion drafft, ynghyd â'r sylwadau, i'w gweld ar wefan y Comisiwn (yn agor mewn tab newydd).