English icon English
 Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn chwifio dros Neuadd y Sir

Armed Forces Day flag flies over County Hall

Mae Neuadd y Sir, Hwlffordd, yn cydnabod rôl hanfodol y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw.

Codwyd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Mawrth 20 Mehefin, a bydd yn parhau i chwifio ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 24 Mehefin.

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn nigwyddiad codi’r faner roedd aelodau presennol y 14eg Catrawd Signalau ym Marics Cawdor a phlant o deuluoedd y Lluoedd Arfog sy’n mynd i Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac Ysgol Gymunedol Prendergast.

Roedd y Cynghorydd Simon Hancock, Hyrwyddwr Aelodau’r Cyngor dros y Lluoedd Arfog, hefyd yn bresennol. Meddai: “Rydym wrth ein bodd yn chwifio Baner y Lluoedd Arfog dros Neuadd y Sir unwaith eto.

“Mae Sir Benfro yn sir gyda hanes milwrol balch sy’n parhau hyd heddiw.

“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle gwych i ddangos ein cefnogaeth i aelodau presennol y lluoedd arfog, eu teuluoedd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a chadetiaid.”

Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, mae’r Cynghorydd Hancock yn rhoi llais i bersonél y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd i sicrhau bod y grŵp yn cael ei ystyried pan fydd penderfyniadau’r Cyngor yn cael eu gwneud.

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o fod wedi ennill Gwobr Arian fawreddog y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) yn 2022.

Mae’r wobr yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi mynd ati i ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Gallwch ddysgu mwy am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn https://www.armedforcesday.org.uk/

Nodiadau i olygyddion

Capsiwn:

Yn y llun gwelir plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog o Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac Ysgol Gymunedol Prendergast gyda’r Uwchgapten Ian Fawcett a Swyddog Gwarantedig Ail Ddosbarth (Uwch-ringyll y Sgwadron) James Butcher o’r 14eg Catrawd Signalau, Awyr-lefftenant Tamitha Richards, Sgwadron 948 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Cynghorydd Simon Hancock, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog.