English icon English
tai

Arolwg yn ceisio llunio gwasanaethau tai cyngor yn y dyfodol

Survey seeks to shape council housing services in the future

Mae tenantiaid tai cyngor yn Sir Benfro yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn cael ei anfon yn fuan gan Gyngor Sir Penfro.

Bydd yr arolwg boddhad cwsmeriaid yn gofyn cwestiynau am sut mae preswylwyr yn teimlo am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn gan adrannau Rheoli Tai a Chynnal a Chadw Adeiladau y Cyngor.

Gwnaeth y Cynghorydd Michelle Bateman, Yr Aelod Cabinet Dros Dai, annog bawb sy'n derbyn arolwg i ymateb. "Mae safbwyntiau a barn tenantiaid ar ein gwasanaethau yn bwysig iawn i ni a byddant yn helpu i lunio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol," meddai.

Yn dilyn yr arolwg, byddwn yn cynnal grwpiau ffocws i drafod yr adborth. Cadwch lygad am y rhain ar ein Tudalen Facebook Tai

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i’r arolwg boddhad cwsmeriaid.

I ddiolch i chi am roi adborth, byddwn yn cynnig cyfle i denantiaid gael eu cynnwys mewn raffl i ennill 4 x £50 a 3 x £100 o dalebau'r stryd fawr. Os hoffech gyfle i ennill, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt. Dyddiad cau: 13 Rhagfyr 2023.

Bydd yr arolwg yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis Tachwedd i holl denantiaid y Cyngor a bydd yn cynnwys cod QR a dolenni er mwyn i denantiaid ei gwblhau ar-lein os yw'n well ganddynt.

Ar ôl i'r arolwg gau ac wedi dadansoddi'r ymatebion, bydd meysydd i'w gwella'n cael eu nodi. Bydd sesiynau adborth ar gyfer tenantiaid yn cael eu trefnu gyda staff a grwpiau ffocws yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Os oes angen help neu gefnogaeth arnoch i gwblhau'r arolwg, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar 07425268725 a fydd yn hapus i helpu, neu e-bostiwch Housing.Surveys@pembrokeshire.gov.uk