English icon English
Pedwar o ddisgyblion Ysgol Casblaidd gyda'u hadroddiad Estyn

Arolygwyr Estyn yn canmol Ysgol Casblaidd i fod yn ‘hapus a chyfeillgar’

Estyn inspectors praise ‘happy and friendly’ Ysgol Casblaidd

Mae Ysgol Casblaidd wedi cael ei disgrifio fel “cymuned hapus a chyfeillgar” gan arolygwyr.

Ymwelodd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, ag Ysgol Casblaidd ym mis Chwefror, ac mae wedi rhyddau ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad llawn o’r ysgol.

Nodwyd yr adroddiad:

  • Mae gan yr ysgol diwylliant cryf o ran diogelu disgyblion.
  • Mae Ysgol Casblaidd yn gymuned hapus a chyfeillgar.
  • Nodwedd gref oedd perthynas yr ysgol â’i chymuned leol.
  • Yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn.
  • Mae’r disgyblion yn mwynhau dod i’r ysgol ac yn teimlo’n hapus iawn o fewn yr amgylchedd cartrefol a chynhwysol. Adlewyrchir hyn yng nghyfradd presenoldeb ychel yr ysgol.
  • Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu. Maent yn mwynhau ac yn ymroi i’w tasgau gyda chyffro a brwdfrydedd.
  • Mae gan y staff berthynas gynnes iawn gyda’r disgyblion. Maent yn eu trin â charedigrwydd a pharch ac mae hyn yn creu amgylchedd cynhwysol lle mae hapusrwydd, lles a chynnydd yr holl ddisgyblion yn flaenoriaeth.
  • Mae’r ysgol a’r staff yn adnabod eu disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned leol yn dda iawn. Maent yn rhoi blaenoriaeth uchel i les disgyblion ac yn ymateb i’w hanghenion emosiynol a chymdeithasol gyda sensitifrwydd.
  • Mae gan yr ysgol weledigaeth glir sy’n seiliedig ar greu amgylchedd dysgu hapus a gofalgar i roi Sylfaen gadarn i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau craidd.
  • Mae ethos o weithio fel tîm cynhyrchiol ymhlith yr athrawon a’r cynorthwywyr yn elfen nodedig o’r ysgol.
  • Mae perthynas yr ysgol â’r rhieni yn gryfder, ac mae’r cydweithio a’r cyfathrebu parhaus yn hyrwyddo’r ysgol yn ei chymuned yn hynod effeithiol.
  • Mae’r pennaeth yn arwain yr ysgol yn hynod effeithiol ac yn annog disgyblion i ddatblygu eu medrau a’u doniau mewn amgylchedd dysgu cynhwysol.

Dywedodd y Pennaeth, Sasha Edwards: “Rwyf wrth fy modd gyda’r adroddiad hwn. Mae Ysgol Casblaidd yn ysgol eithriadol ac rwy’n hynod falch i fod yn Bennaeth ar yr ysgol.

“Hoffwn ganmol y staff a’r llywodraethwyr rhagorol sydd wedi gweithio’n ddi-baid i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a bod eu lles a’u cynnydd yn eu dysgu yn hollbwysig.

“Mae Ysgol Casblaidd yn ysgol y gall ein disgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach fod yn falch iawn ohoni.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Corff Llywodraethol, Lisa Thomas: “Rwy’n hynod falch o ddisgyblion, staff a Llywodraethwyr Ysgol Casblaidd. Roedd yn bleser croesawu’r tîm arolygu, ac roeddwn yn falch eu bod wedi gallu gweld beth sydd mor wych am ein hysgol – yn arbennig eu sylwadau ar gwrteisi brwdfrydedd disgyblion dros ddysgu.

“Gwnaed sylwadau hefyd ar waith yr ysgol gyda’r gymuned leol, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gymuned Casblaidd am eu cefnogaeth ddiwyro – gallwn oll fod yn hynod falch o’r adroddiad hwn.”

Mae’r adolygiad llawn ar lein.