Arwyr hinsawdd yn gwneud gwahaniaeth yn yr ysgol a’r gymuned
Climate heroes making a difference in school and community
Mae ysgol yn Sir Benfro wedi cael ei chydnabod am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr hinsawdd yn yr ystafell ddosbarth a ledled y Sir.
Mae Tîm Gwyrdd Ysgol Gymunedol Pennar wedi ennill gwobr Arwyr Calon Werdd y Gynghrair Hinsawdd i Ysgolion ar ôl dangos ei fod yn cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif.
Mae’r ysgol yn deall bod newidiadau bach mewn cymunedau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac arweiniodd hyn at gynnal COP1 – Cynhadledd Pennar 1 – ochr yn ochr â chynhadledd ryngwladol COP26 yn Glasgow yn 2021.
Aeth disgyblion ati i drafod ffyrdd o sicrhau bod yr ysgol yn fwy cynaliadwy a lleihau’r effaith y mae’n ei chael ar yr amgylchedd cyn pleidleisio dros ba syniadau y dylid eu rhoi ar waith.
Yn eu plith roedd peidio â defnyddio pŵer am awr er budd natur, gwahardd unrhyw bennau plastig yn yr ysgol, cyflwyno llain lysiau, canolfan ailgylchu, cwch gwenyn a dôl blodau gwyllt yn yr ysgol, a gwahardd glitter yn barhaol.
Mae cynhadledd Pennar yn ddigwyddiad blynyddol erbyn hyn. Bydd COP2, a gynhaliwyd ar yr un pryd â COP27, yn arwain at gyflwyno newidiadau pellach yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.
Ym mis Tachwedd 2022, cafodd llwyddiant y gynhadledd ei efelychu gan ysgolion eraill mewn digwyddiad COPembs, cynhadledd sirol mewn partneriaeth ag Ysgol Gymunedol Pennar ac Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro.
Mae gwaith caled yr ysgol wedi cael ei gydnabod hefyd wrthi iddi ennill statws Aur Cynllun Ysgolion Cynaliadwy Cyngor Sir Penfro.
Dywedodd y Gynghrair Hinsawdd: “Mae brwdfrydedd ac egni heintus Tîm Gwyrdd Ysgol Gymunedol Pennar, sy’n cael eu gweld ar draws y rhanbarth erbyn hyn, yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i gymryd rheolaeth a rhannu eu syniadau ar gyfer dyfodol hapusach a mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd Siân Taylor, Arweinydd Eco-ysgolion/Dysgu Awyr Agored ac arweinydd y Tîm Gwyrdd: “Rwy’n falch iawn o’r Tîm Gwyrdd ac yn hapus iawn bod gwaith caled ac ymroddiad y tîm wedi cael eu cydnabod.”
Cyflwynwyd gwobr Hyrwyddwyr Hinsawdd BBC Bitesize Regenerators i’r ysgol y llynedd ac, yn ddiweddar, daeth yn ail yng ngwobrau Cadwch Gymru’n Daclus.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae’r hyn y mae Ysgol Gymunedol Pennar a’r Tîm Gwyrdd wedi bod yn ei wneud i helpu i leihau eu hôl troed carbon eu hunain ac i gefnogi eu hamgylchedd lleol yn wych ac yn ysbrydoliaeth i bob ysgol yn Sir Benfro.”
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Joanne Hinds: "Fel cymuned ysgol, rydym yn falch iawn o waith caled ac ymdrechion y Tîm Gwyrdd a Mrs Taylor. Maen nhw’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein hysgol a’n cymuned yn amgylchedd mwy cynaliadwy a bioamrywiol i bawb.
“Mae eu brwdfrydedd a’u hegni yn heintus a nodwyd hynny’n benodol yn ystod arolwg diweddar gan ESTYN, pan gawsom ein gwahodd i baratoi astudiaeth achos ar y gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu dysgwyr egwyddorol a gwybodus.
“Rydym yn edrych ymlaen at eu menter nesaf wrth iddyn nhw fynd o nerth i nerth.”