English icon English
Arwydd gwybodaeth traeth newydd gan gynnwys cyfyngiadau cŵn

Atgoffa am gyfyngiadau ar gŵn ar draethau wrth i wyliau'r ysgol ddechrau

Dog beach restrictions reminder as school holidays start

Wrth i wyliau'r haf ddechrau bydd ein traethau hyd yn oed yn brysurach ond cofiwch fod rhai cyfyngiadau ar gŵn ar waith.

Er bod llawer o draethau Sir Benfro yn croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn, mae rhai cyfyngiadau ar waith rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Rhwng y dyddiadau hyn mae cŵn wedi’u gwahardd yn gyfan gwbl o draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod a Thraeth Porth Mawr.

Mae gwaharddiadau rhannol ar gŵn yn Lydstep, traeth Niwgwl a’r llethr cerrig mân, Coppet Hall (gwirfoddol), traeth a phromenâd Saundersfoot, Traeth y Castell a Thraeth y De, Dinbych-y-pysgod, traeth a phromenâd Amroth, Traeth Poppit, Gogledd Aberllydan a Dale.

Gallwch weld a lawrlwytho mapiau o'r traethau a'r cyfyngiadau sydd ar waith ar wefan Croeso Sir Benfro.

Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn tywys.

Mae'r gwaharddiadau ar gŵn yn destun gorfodaeth gyda chosb uchaf o £500 am dorri'r is-ddeddfau.

Ers i'r cyfyngiadau ddod i rym ar 1 Mai mae 198 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi'u cyhoeddi.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Mae'r haf yn Sir Benfro yn wych i'r teulu cyfan, gan gynnwys ein ffrindiau blewog. Ni chaniateir cŵn ar rai o’n traethau niferus, ac rydym yn atgoffa ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd i gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith."