English icon English
Y Cynghorydd Rhys Sinnett wrth ymyl un o'r arwyddion cyfyngiadau cŵn newydd yn Aberllydan

Atgoffa perchnogion cŵn am gyfyngiadau ar rai o draethau Sir Benfro

Dog owners reminded of restrictions on some Pembrokeshire beaches

Tra bod croeso i gŵn ar y rhan fwyaf o'r 50 a mwy o draethau yn Sir Benfro mae cyfyngiadau ar rai dros yr haf - a dim ond dau â gwaharddiad llwyr.

Rhwng 1 Mai a 30 Medi mae gwaharddiad llwyr ar gŵn ar Draeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod a Thraeth Mawr, Tyddewi ac mae gwaharddiadau rhannol ar naw arall.

Y rhain yw: Lydstep; traeth a phromenâd Niwgwl; Neuadd Coppet (gwirfoddol); Traeth a phromenâd Saundersfoot; Traeth y Castell a Thraeth y De Dinbych-y-pysgod; Traeth a phromenâd Amroth; Traeth Poppit; Gogledd Broad Haven a Dale.

Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn tywys.

Bydd mapiau ym mhob un o'r lleoliadau hyn yn nodi pa ardaloedd y mae croeso i gŵn ac yn atgoffa perchnogion bod yn rhaid cadw cŵn ar dennyn ar bob promenâd, banciau cerrig ac ardaloedd penodol eraill. 

Mae'r arwyddion newydd, sy'n rhoi arweiniad clir i bob ymwelydd, wedi eu hariannu gan grant Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella mynediad i'r arfordir, yn ogystal â Chyngor Sir Penfro, Dŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cafodd yr arwyddion eu datblygu mewn cydweithrediad â Croeso Sir Benfro, Fforwm Arfordir Sir Benfro, RNLI a Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae'r gwaharddiadau ar gŵn yn destun gorfodaeth gydag uchafswm cosb o £500 am dorri'r is-ddeddfau. Mae'r Ddeddf Baeddu Tir yn berthnasol i holl draethau Sir Benfro.

Byddwch yn berchennog ci cyfrifol a biniwch y baw!

Mae dolenni i fwy o wybodaeth a safleoedd defnyddiol eraill i sicrhau eich bod yn cael ymweliad pleserus a diogel ag arfordir Sir Benfro ar wefan Hamdden Sir Benfro. 

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Mae llawer o draethau hardd yn Sir Benfro a dim ond nifer fach lle ceir cyfyngiadau ar gŵn dros rai misoedd.

“Rydym yn gofyn i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd barchu ein holl draethau trwy gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith. Rhaid i berchnogion cŵn ar bob traeth hefyd sicrhau eu bod yn glanhau ar ôl eu cŵn fel y gall pawb fwynhau ein harfordir."