English icon English
car wedi rhewi

Awgrymiadau syml i baratoi ar gyfer y gaeaf

Simple tips to get Winter Ready

Mae'r tywydd oer diweddar wedi profi nad oes amser gwell na'r presennol i sicrhau eich bod chi'n barod am y gaeaf.

Er bod llawer o bobl wrth eu bodd â'r goleuadau’n sgleinio, nosweithiau clyd a boreau ffres, mae'r gaeaf hefyd yn dod â'i heriau.

Ond gydag ychydig o gynllunio gallwch chi sicrhau eich bod chi, eich cartref, eich cerbyd a'ch cymuned yn barod ar gyfer popeth a ddaw yn sgil y gaeaf.

Dyma rai awgrymiadau syml i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Cartref a gardd

  • Gwiriwch eich cwteri - gall dail yn cwympo rwystro cwteri ac achosi problemau gyda dŵr yn cronni.
  • Dysgwch lle mae'ch stop-falf. Mae gan Dŵr Cymru lawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y gaeaf.
  • Lapiwch dapiau yn yr awyr agored i’w hatal rhag rhewi a phibellau rhag byrstio.
  • Cyflenwadau sylfaenol - gwnewch yn siŵr fod gennych chi dortsh, batris, canhwyllau, banc pŵer wedi'i wefru, bwyd anllygradwy a dŵr potel wrth lawr, rhag ofn y byddwch chi’n colli pŵer.
  • Gardd – dylech gael gwared ar ganghennau rhydd a dodrefn gardd diogel ac offer chwarae fel trampolinau a allai achosi problemau mewn gwyntoedd cryfion.
  • Gwiriwch eich perygl llifogydd a chofrestrwch am rybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych chi mewn perygl, edrychwch ar y Cyfeiriadur Tudalennau Glas am adnoddau.

Cerbyd

  • Gwiriwch deiars a lefelau hylif golchi sgrin yn rheolaidd.
  • Dylech ddadmer y ffenestr flaen yn drylwyr cyn mynd y tu ôl i'r olwyn.
  • Gyrrwch yn briodol i'r amodau. Darllenwch gyngor ar yrru yn y gaeaf
  • Cadwch becyn car gaeaf wrth law gyda chrafwr iâ a dadrewydd, gwefrydd ffôn symudol, gwifrau cyswllt, bwyd a diod a dillad cynnes a blancedi.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion cau Pont Cleddau.
  • Dilynwch Gyngor Sir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook ac X – Twitter gynt) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am raeanu ffyrdd a diweddariadau am y sefyllfa.

Iechyd

Cymuned