English icon English
Aelodau o Fand Pres Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro

Band Pres Ieuenctid yn rhagori yn wyneb cystadleuaeth genedlaethol

Youth Brass Band takes on national competition

Gwnaeth Band Pres Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ragori ym Mhencampwriaethau Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr yn Cheltenham yn ddiweddar.

Bu’r Band yn cystadlu yn adran Perfformiad Yamaha yn erbyn 16 o fandiau eraill o bob rhan o'r DU ac roeddent wrth eu bodd i ennill yr ail safle yn gyffredinol.

Gwnaeth eu perfformiadau o Slaidburn March gan William Rimmer, Pater Noster gan Rebecca Lunberg argraff, â Bandstand Boogie gan Stuart Johnson ar y beirniaid, yn ogystal ag unawd gan y prif chwaraewr cornet Carys Wood ynghyd.

Cafodd wobr yr Unawdydd Gorau ei ddyfarnu i Carys gyda'r beirniad Gavin Saynor yn canmol ei pherfformiad emosiynol yn y digwyddiad ar 23 Mawrth.

Derbyniodd pob Band a gymerodd ran dystysgrif cyflawniad, gyda cherddorion Sir Benfro yn cipio lefel Aur am eu perfformiad.

Carys and Filip

Dywedodd Miranda Morgan, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro: "Rydyn ni wrth ein bodd dros Fand Pres Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ar ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol 2024! Cyflawniad rhagorol.

"Roedd yn ddiwrnod cadarnhaol hyfryd o greu cerddoriaeth ac yn gyfle gwych i'n chwaraewyr ifanc, nad oedd llawer ohonyn nhw wedi bod mewn cystadleuaeth Band Pres o'r blaen.

"Diolch yn fawr iawn i'r holl ddisgyblion, yr arweinydd Ian Wilkinson, a'r staff cymorth am roi diwrnod cyntaf eu gwyliau Pasg i fod yn bresennol."

Gallwch glywed y band yn perfformio nesaf yng nghyngerdd Cerddoriaeth yn y Faenor, dathliad gwych o gerddoriaeth yn ein cymuned, ym Maenor Scolton ddydd Gwener 10 Mai.  

 

 

Lluniau: Band Pres Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro gyda'u harweinydd Ian Wilkinson

Carys, enillydd yr unawdydd gorau a Filip, aelod o’r Band Pres yn casglu'r gwobrau