English icon English
cau dwylo a braich mewn top pinc yn dal dau lyfr

Bardd Llawryfog yn ymweld â Sir Benfro fel rhan o daith ddeng mlynedd o amgylch llyfrgelloedd y DU

Poet Laureate to visit Pembrokeshire as part of ten-year tour of UK libraries

Bydd taith fawreddog Bardd Llawryfog o amgylch Llyfrgelloedd ledled y DU yn galw yn Sir Benfro yn ystod y Gwanwyn hwn a bydd hyn yn cynnwys darlleniad gan Simon Armitage.

Mae’n bleser gan Lyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd, groesawu’r daith a’r Bardd Llawryfog, Mr Armitage, i ddigwyddiad ar 8 Mawrth am 6pm.

Bydd gwesteion arbennig yn ymuno ag ef, sef y bardd, y nofelydd a’r dramodydd o Gymru sydd wedi cael enwebiad am wobrau BAFTA a Grierson, Owen Sheers, ac un o feirdd Cynrychioli Cymru, Bethany Handley.

Bydd arddangosfa oriel newydd yn agor ar y noson hefyd, yn dathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas, gyda ffocws penodol ar ei farddoniaeth a’i ddrama leisiau eiconig, Under Milk Wood.

Cynhelir yr arddangosfa gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bob Gwanwyn y degawd hwn, bydd Mr Armitage yn rhoi darlleniadau mewn llyfrgelloedd ledled y DU, o lyfrgelloedd blaenllaw mewn dinasoedd mawr i’r llyfrgelloedd llai sy’n gwasanaethu cymunedau gwledig ac anghysbell. Trwy ddefnyddio’r wyddor fel cwmpawd, bydd ei daith yn dathlu’r llyfrgell fel un o’r sefydliadau gwych ac angenrheidiol.

Dywedodd Simon Armitage: “Dechreuodd fy mhrofiad o ddarllen ac ysgrifennu yn llyfrgell y pentre’ lle cefais fy magu, wedyn yn llyfrgell y dref gyfagos, wedyn mewn llyfrgelloedd mewn mannau astudio ac addysgu amrywiol. I lawer o bobl, maen nhw’n agwedd werthfawr ar fywyd bob dydd, sy’n golygu nad llyfrau yn unig sydd ar gael, ond gwasanaethau, dysgu, sgwrsio a meddwl yn greadigol.

“Hoffwn dalu teyrnged i’r sefydliadau unigryw hyn. Trwy gynllunio darlleniadau hyd at ddegawd ymlaen llaw, rwy’n optimistaidd am ddyfodol ein llyfrgelloedd ac yn herio’r awdurdodau hynny a fyddai’n ystyried eu cau i lawr.

“Hoffwn ddathlu gofod ffisegol llyfrgelloedd a mynd â’m gwaith yn ôl i leoedd sydd wedi rhoi cymaint i mi.”

Mae ei Daith Llyfrgelloedd, sef H to K Libraries Tour, yn lansio yn Llyfrgell Harlesden, Brent, cyn teithio i Hwlffordd ac ymlaen i’r Alban, cyn diweddglo’r daith yn Llyfrgell Haltwhistle, Northumberland.

Cefnogir taith H to K Libraries Tour gan T.S.Eliot Foundation a’r cyhoeddwyr Faber.

Bydd tocynnau cyfyngedig i’r cyhoedd ar gael o 16 Chwefror ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Mae bwcio yn hanfodol.