English icon English
Footprints on snowy road - 923463082

Byddwch yn barod i’r gaeaf yn eich cartref ac ar y ffordd

Be ready for Winter at home and on the road

Mae yna lawer o awgrymiadau syml i wneud yn siŵr eich bod yn barod i’r gaeaf eleni, ac mae bob amser yn beth da i fod yn barod.

Gydag ychydig o gynllunio, gallwch wneud yn siŵr eich bod chi, eich cartref, eich cerbyd a'ch cymuned yn barod ar gyfer popeth a ddaw yn sgil y gaeaf.

Gall gwefan Cyngor Sir Penfro hefyd helpu gyda gwybodaeth am lwybrau graeanu a diweddariadau ar sefyllfaoedd.

Yn ystod cyfnod oer, mae staff yn monitro'r tywydd trwy gydol y dydd a'r nos ynghyd â nifer o synwyryddion ochr ffordd sy'n mesur tymheredd y ffordd.

Mae'r penderfyniad i roi halen ar y prif rwydwaith priffyrdd yn cael ei wneud gan swyddogion cynnal a chadw gaeaf profiadol yn y cyngor.

Mae’n cymryd mwy na dwy awr i drin y prif lwybrau, sy’n cynnwys tua 592 km o gerbytffordd – 23 y cant o holl rwydwaith y sir.

Gall gymryd amser i'r halen gael effaith, gyda traffig yn symud yn cynorthwyo ei effeithiolrwydd. Bydd cawodydd neu law yn golchi halen oddi ar ffyrdd, gan eu gadael yn agored i iâ, felly mae bob amser yn bwysig gyrru i'r amodau.

Dyma rai awgrymiadau syml i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Cerbyd

  • Gwiriwch y teiars a lefelau’r dŵr golchi sgrin yn rheolaidd.
  • Dadmerwch y ffenestr flaen yn drylwyr cyn mynd y tu ôl i'r olwyn.
  • Gyrrwch yn briodol i'r amodau. Darllenwch gyngor gyrru yn y gaeaf.
  • Cadwch becyn gaeaf i’r car wrth law gyda chrafwr rhew a dadrewydd, gwefrydd ffôn symudol, gwifrau cyswllt, bwyd a diod, a dillad cynnes a blancedi.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion cau Pont Cleddau.
  • Dilynwch Gyngor Sir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook ac X – Twitter gynt) i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am raeanu ffyrdd a diweddariadau ar sefyllfaoedd.

Cartref a gardd

  • Gwiriwch eich cwteri – gall dail sydd wedi cwympo flocio cwteri ac achosi problemau gyda dŵr yn cronni.
  • Byddwch yn ymwybodol o leoliad eich tap i ddiffodd cyflenwad y dŵr. Mae gan Dŵr Cymru lawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y gaeaf.
  • Lagiwch dapiau sydd allan yn yr awyr agored i atal y pibellau rhag rhewi a byrstio.
  • Cyflenwadau sylfaenol – cadwch dortsh, batris, canhwyllau, banc pŵer wedi'i wefru, bwyd annarfodus a dŵr potel wrth law, rhag ofn y bydd toriadau pŵer.
  • Gardd – gwaredwch y canghennau rhydd a diogelwch eich dodrefn gardd ac offer chwarae fel trampolinau a allai achosi problemau mewn gwyntoedd cryf.
  • Gwiriwch y perygl o lifogydd, a chofrestrwch am rybuddion llifogydd oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych mewn perygl, edrychwch ar gyfeiriadur y Tudalennau Glas am adnoddau.
  • Gwiriwch am unrhyw ddiweddariadau gwastraff ac ailgylchu.

Iechyd

  • Cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau Covid os ydych yn gymwys.
  • Ystyriwch amddiffyn eich hun ac eraill trwy gael brechiad ffliw.
  • Darllenwch gyngor ar osgoi feirysau’r gaeaf.
  • Sicrhewch fod gennych gyflenwadau o feddyginiaeth, yn enwedig dros gyfnodau gwyliau.
  • Defnyddiwch GIG 111 Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel adnoddau.
  • Ystyriwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, sy’n cael ei redeg gan fferyllfeydd ar gyfer llawer o gyflyrau cyffredin.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus i osgoi llithro a chwympo yn ystod tywydd rhewllyd.

Cymuned