English icon English
menyw yn sefyll paned fawr o de ger ei hwyneb

Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach yn Sir Benfro

Keep Warm, Keep Well in Pembrokeshire

Mae Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach unwaith eto yn cefnogi pobl ledled Sir Benfro gyda chostau byw'r gaeaf hwn.

Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) ac amrywiaeth o asiantaethau gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, y Gwasanaethau Brys a'r Sector Gwirfoddol.

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ac mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i gymaint o bobl. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu pobl â gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau lleol dros fisoedd oeraf y flwyddyn.

Ledled Sir Benfro, rydym eisoes yn gweld cymunedau a sefydliadau yn gwneud gwaith gwych i ymateb i’r argyfwng gan gynnig ystod o atebion lleol, o brydau poeth i weithgareddau cymunedol, ynghyd â chyngor ar ynni, arian a dyled.

Mae mannau Croeso Cynnes yn cynnig lleoliadau croesawgar lle gall pobl gwrdd ag eraill yn eu cymuned leol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Am fap o leoliadau cynnes ewch i www.hwbcymunedolsirbenfro.org.uk

Os ydych chi neu bobl rydych yn eu hadnabod yn profi caledi ariannol neu os hoffech gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal chi, gallwch gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro. Gallant siarad â chi am eich sefyllfa a'ch rhoi mewn cysylltiad â'r grŵp neu'r gwasanaeth cymunedol cywir - mae llawer o gymorth ar gael yn Sir Benfro a ledled Cymru.

Dywedodd Sophie Buckley, Arweinydd Rhaglen Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach yn PAVS: “Gall unrhyw un sy'n poeni am sut y maen nhw’n mynd i allu fforddio talu eu biliau dros y gaeaf, cadw'n gynnes neu brynu'r hanfodion, gysylltu â fy nghydweithwyr yn Hwb Cymunedol Sir Benfro. Cewch groeso cynnes gan dîm cyfeillgar iawn a all gael sgwrs gyda chi am y gefnogaeth sydd ar gael. Mae gan yr Hwb ddull hawdd 'un alwad dyna'r cyfan', ffoniwch 01437 723660, neu gallwch anfon e-bost i enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org”.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Penfro:  Rydyn ni’n gweithio gyda'n partneriaid lleol, gan adeiladu ar y gwaith gwych y gaeaf diwethaf, i gefnogi rhwydwaith o Leoliadau Cymunedol Croeso Cynnes lle mae pobl yn dod at ei gilydd, yn mwynhau cwmni, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol, ac mewn rhai mannau yn cael pryd poeth gyda'i gilydd.

“Byddwn yn annog pawb i gysylltu â'r Hwb Cymunedol i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael gan ystod eang o sefydliadau.

“Gyda'n gilydd byddwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymunedau lleol ac yn helpu preswylwyr gyda chostau byw."

Drwy gyllid sydd ar gael gan Gyngor Sir Penfro, mae'r rhaglen Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach yn cefnogi sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor, help gyda chostau tanwydd, cefnogi’r galw ar fanciau bwyd, prydau cymunedol, banciau bwyd anifeiliaid anwes, pecynnau cadw’n gynnes mewn argyfwng, eitemau hanfodol i deuluoedd a chymorth i unigolion sy'n profi tlodi data.