English icon English
pwyntio at gynlluniau gyda beiros

Cais am sylwadau ar ganllawiau cynllunio ar gyfer datblygiad carafanau, gwersylla a chabanau gwyliau

Comments wanted on planning guidance for caravan, camping and chalet development

Mae Cyngor Sir Penfro eisiau clywed eich barn ar ganllawiau cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau carafanau, gwersylla a chabanau gwyliau.

Paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn unol ag asesiad capasiti a gynhaliwyd yn 2019 ac mae'n cael ei gynnig i'w ddefnyddio ochr yn ochr â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl 2).

Mae'r CDLl yn nodi fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyfarwyddo twf newydd yn Sir Benfro, y tu allan i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae'r CDLl 2 hefyd yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, ochr yn ochr â'r canllawiau cynllunio atodol.

Mae hyn yn canolbwyntio'n benodol ar gapasiti'r Ardaloedd Cymeriad Tirwedd i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o lety i ymwelwyr a rhoi cyngor ynghylch a oes modd uwchraddio neu ymestyn safleoedd presennol, neu ddatblygu safleoedd newydd.

Mae gan drigolion tan 16 Rhagfyr i ddweud eu dweud ar y cynigion hyn.

Gellir gweld y dogfennau ar ein gwefan https://www.sir-benfro.gov.uk/adolygur-cynllun-datblygu-lleol/cyfarwyddyd-cynllunio-atodol-y-cdll.

Gellir gweld copïau papur o'r prif ddogfennau yn llyfrgelloedd Neuadd y Sir, Hwlffordd a Sir Benfro lle mae mynediad cyhoeddus ar gael.

Gellir anfon sylwadau at ldp@pembrokeshire.gov.uk neu bostio i: Y Tîm Cynlluniau Datblygu, Neuadd y Sir, Freeman's Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP erbyn hanner nos ar 16 Rhagfyr 2024.

Neu ewch i dudalennau Dweud eich Dweud Cyngor Sir Penfro https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau