Canfasiad blynyddol i atgoffa trigolion i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr
Annual canvass reminding residents to check voter registration details
Mae dau etholiad wedi bod eleni ond mae'r canfasiad blynyddol yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol a bydd Awdurdodau Lleol ledled y DU yn ei gyflawni.
Gofynnir i drigolion Sir Benfro wirio bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol i sicrhau eu bod yn gymwys i bleidleisio yn y dyfodol.
Mae'r canfasiad blynyddol yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a'u hannog i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy’n byw yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau Llywodraeth Leol a Senedd Cymru, waeth ble bynnag y cawsant eu geni.
Anogir pobl sydd wedi symud i gartref newydd yn diweddar yn benodol i wirio eu manylion.
Bydd llawer o drigolion eisoes wedi derbyn e-bost yn gofyn i wirio a chadarnhau eu manylion ond os nad ydych, byddwch yn derbyn llythyr yn ystod yr wythnos nesaf.
Dywedodd Will Bramble, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Penfro: "Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol.
“I sicrhau nad ydych yn colli eich hawl i leisio barn mewn etholiadau, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch.
“Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro ac wefan y Comisiwn Etholiadol.