
Castell Arberth i Aros ar Gau Dros Dro ar Gyfer Gwaith Diogelwch Pellach
Narberth Castle to remain temporarily closed for further safety works
Yn anffodus, mae Cyngor Sir Penfro am roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr y bydd Castell Arberth yn aros ar gau dros dro y tu hwnt i gyfnod cychwynnol y gwaith cadwraeth, gan fod gwaith diogelwch hanfodol ychwanegol wedi'i nodi.
Yn dilyn y rhaglen ddiweddar o sefydlogi a chadwraeth, mae archwiliad pellach wedi datgelu rhagor o bryderon strwythurol sy'n gofyn am sylw brys i sicrhau diogelwch a chadwraeth hirdymor y safle treftadaeth pwysig hwn.
Cyfnod Cau Estynedig: Bydd y safle, gan gynnwys y llwybr troed cyhoeddus, yn aros ar gau tra bydd gwaith pellach yn cael ei wneud.
Bydd yn cynnwys atgyfnerthu gwaith maen ansefydlog, cael gwared ar falurion peryglus, a gosod mesurau amddiffynnol i atal dirywiad yn y dyfodol.
Oherwydd natur y tir a'r offer sydd ei angen, rhaid cyfyngu yn llwyr ar fynediad i'r safle o hyd i warchod diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: “Rydym yn deall y siom y gall cau y castell am gyfnod estynedig ei achosi, ond rhaid i ddiogelwch ein trigolion a'n hymwelwyr ddod yn gyntaf. Mae'r gwaith ychwanegol yn hanfodol i sicrhau bod Castell Arberth yn parhau i fod yn dirnod diogel a hygyrch ar gyfer cenedlaethau i ddod.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Marc Tierney, cynghorydd ward Trefol Arberth: “Mae gan Gastell Arberth arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol dwfn i'n cymuned. Er bod yr oedi yn rhwystredig, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y safle yn cael ei adfer a'i ddiogelu'n briodol.”
Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r prosiect fynd rhagddo ac mae'n gweithio'n agos gydag arbenigwyr treftadaeth a rhanddeiliaid lleol i archwilio gwelliannau i'r safle yn y dyfodol pan fydd yn ailagor.
Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.