Cau ffyrdd dros Benwythnos y Cwrs Hir
Long Course Weekend road closures
Mae Penwythnos y Cwrs Hir yn dychwelyd i dde Sir Benfro dros y penwythnos felly bydd rhywfaint o darfu ar y ffyrdd.
Bydd nifer o ffyrdd o amgylch ardal ehangach Dinbych-y-pysgod ar gau yn llwyr neu ar gau un ffordd yn ystod Sportive Cymru ddydd Sadwrn, 22 Mehefin.
Ni fydd yr A40 na'r A477 ar gau ar gyfer y digwyddiad.
Bydd yr A478 Arberth i Gilgeti hefyd ar agor yn llawn.
Bydd y digwyddiad, fel y llynedd, wedi'i leoli ym maes parcio The Salterns - mae hyn wedi cael gwared ar gyfyngiadau cau ffyrdd o ganol tref Dinbych-y-pysgod.
Mae cynlluniau hefyd i gau ffyrdd o Ddinbych-y-pysgod i Benfro yn ystod Marathon Cymru ddydd Sul, 23ain Mehefin. Bydd y ffyrdd hyn ar gau un rhan ar y tro rhwng 9.30am a 4pm.
Mae manylion llawn a’r diweddaraf ar gael ar wefan Penwythnos y Cwrs Hir.
Atgoffir gwylwyr fod cyfyngiadau cŵn ar Draeth y Gogledd yn parhau i fod ar waith.
Mae rhagor o wybodaeth i ofalwyr sydd angen mynediad at eu cleientiaid yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt hefyd ar gael ar-lein, a bydd pasys cerbyd yn cael eu dosbarthu gan reolwyr sefydliadau gofal.
Bydd newidiadau i wasanaethau bysiau lleol ar waith oherwydd cyfyngiadau ar y ffyrdd dros Benwythnos y Cwrs Hir.
Bydd Fflecsi De Penfro yn cynnal gwasanaethau cyfyngedig i rai lleoliadau ac mae'n debygol y bydd oedi.
Dydd Sadwrn, 22 Mehefin
351 (Dinbych-y-pysgod-Cilgeti-Amroth-Pentywyn) – DIM GWASANAETH
381 (Hwlffordd-Arberth-Cilgeti-Saundersfoot-Dinbych-y-pysgod) – DIM GWASANAETH
Gwibiwr Dinbych-y-pysgod (Dinbych-y-pysgod - Saundersfoot) – DIM GWASANAETH
349 (Hwlffordd-Neyland-Doc Penfro-Penfro-Dinbych-y-pysgod) – Methu gwasanaethu Doc Penfro i Ddinbych-y-pysgod tan ar ôl 1pm.
356 (Aberdaugleddau-Neyland-Doc Penfro-Penfro-Monkton) – Methu gwasanaethu Penfro a Monkton tan ar ôl 1pm
387/8 (Gwibfws yr Arfordir) – Methu gweithredu tan 11am.
Dydd Sul, 23 Mehefin
387/8 (Gwibfws yr Arfordir) – DIM GWASANAETH
Gwibiwr Dinbych-y-pysgod (Dinbych-y-pysgod - Saundersfoot) – Bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A4218 (Broadwell Hayes) yn lle Marsh Road a Heywood Lane.