Ceisio barn preswylwyr ar deithio llesol rhwng Penalun i Ddinbych-y-pysgod
Residents’ views wanted on Penally to Tenby Active Travel
Mae cynlluniau i wella’r gallu i deithio rhwng Penalun a Dinbych-y-pysgod heb ddefnyddio cerbyd i'w trafod mewn digwyddiad gwybodaeth cyhoeddus yr wythnos nesaf.
Mae’r cynigion teithio llesol yn cynnwys creu llwybr cyd-ddefnyddio o bentref Penalun i Gwrs Golff Dinbych-y-pysgod, ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a chreu llwybr aml-ddefnyddwyr o Clicketts Lane i Heywood Lane, a fydd hefyd yn cynnwys marchogion.
Bydd llwybr cyd-ddefnyddio hefyd o Marsh Road i Clicketts Lane, ac o Slippery Back i The Croft ynghyd â gwelliannau rhwng maes parcio Traeth y Gogledd a The Green.
Y nod yw darparu man diogel a rennir i bob defnyddiwr allu cymudo o Benalun i Ddinbych-y-pysgod heb ddefnyddio car neu gerbyd arall.
Cynhelir sesiynau galw heibio ym Mhafiliwn De Valence, Dinbych-y-pysgod, ar 16 Hydref rhwng 10am a 12pm, 1pm a 4pm a 6.30pm ac 8pm.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, bydd arolwg cyhoeddus ar gael ar-lein ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol wyneb yn wyneb. Mae modd dod o hyd i’r arolwg yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau.
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, ac yn cau ar 13 Tachwedd.
Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Penfro yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/strategaeth-drafnidiaeth ac mae copïau caled ar gael ym Mhafiliwn De Valance a Neuadd y Sir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 76455.