English icon English
tu mewn i siambr y cyngor

Ceisio dinasyddion i fod yn aelodau o bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor

Citizens sought to sit on council’s governance and audit committee

Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am ddinesydd i fod yn aelod lleyg ar ei Bwyllgor Llywodraethu a Chraffu.

Mae gwaith y pwyllgor yn cynnwys:

  • adolygu a chraffu ar faterion ariannol yr Awdurdod
  • gwneud adroddiadau ac argymhellion ynglŷn â materion ariannol yr Awdurdod
  • adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, asesu perfformiad a llywodraethu corfforaethol yr Awdurdod
  • gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor neu’r Pwyllgor perthnasol ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny
  • yn ogystal â sawl swyddogaeth arall

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o werth y swyddogaeth Archwilio. Disgwylir iddynt hefyd ddangos ymrwymiad i werthoedd atebolrwydd, uniondeb, bod yn agored, annibyniaeth, tegwch a rheolaeth ariannol gadarn yn y sector cyhoeddus.

Ni all dinasyddion ddod yn Aelod Lleyg:

  • os ydynt yn aelod neu’n swyddog o unrhyw Awdurdod Lleol
  • os ydynt, yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n diweddu ar y dyddiad penodi, wedi bod yn aelod neu’n swyddog o unrhyw Awdurdod Lleol
  • os ydynt yn briod ag, neu’n bartner sifil i, aelod neu swyddog o unrhyw Awdurdod Lleol.

Bydd y penodiad yn cael ei wneud gan banel o bum unigolyn, yn cynnwys Cadeirydd Annibynnol, tri Aelod o’r Cyngor ac Aelod o Gyngor Cymuned. 

Bydd lwfans yn daladwy am fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Ionawr 2025. Croesewir ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

I gael disgrifiad llawn o’r rôl a phecyn ymgeisio, cysylltwch â Lydia Cheshire, 01437 775356, neu anfonwch neges e-bost at: lydia.cheshire@pembrokeshire.gov.uk