Cerddorion ifanc yn disgleirio mewn cyngerdd rhanbarthol
Young musicians shine at regional concert
Mwynhaodd pobl ifanc o Sir Benfro ddawn gerddorol gwrs cerddorfa chwe sir ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis hwn.
Daeth y digwyddiad i ben gyda chyngerdd arbennig yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, lle gwnaeth pobl ifanc rhwng 12 a 19 oed o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Powys a Chastell-nedd Port Talbot ddiddanu eu cynulleidfa.
Ariannwyd y cwrs gan gronfa adfer ensemble Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ac roedd yn rhad ac am ddim i ddisgyblion cerddorfa a band chwyth gan sicrhau y gallai pob person ifanc gymryd rhan waeth beth fo'u sefyllfa ariannol.
Perfformiodd y gerddorfa o dan faton yr arweinydd byd-enwog Grant Llewellyn sy'n wreiddiol o Ddinbych-y-pysgod.
Fe wnaeth disgyblion y band chwyth elwa hefyd o gael ymarfer hanner diwrnod a gynhaliwyd gan Geraint Evans, pennaeth Gwasanaeth Cerdd Ceredigion sydd wedi ymddeol.
Roedd y repertoire yn cynnwys Prismatic Light, Fanfare for the Common Man, Finlandia a Hamilton ymhlith llawer o rai eraill.
Perfformiwyd y Concerto Trwmped gan Carys Wood sy'n aelod o ensembles sirol Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ac sydd bellach yn cael ei haddysgu gan Philippe Schartz, prif drwmpedwr Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, Philippa Roberts: "Mae llwyddiant y cyngerdd yn ganlyniad i waith caled y disgyblion ac ymroddiad y tiwtoriaid a gefnogodd y disgyblion dros y cwrs pedwar diwrnod. Diolch i Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru am gefnogi'r cyfle gwerthfawr hwn."