English icon English
Mae penddelw trawiadol o'r bardd a'r heddychwr enwog o Gymru Waldo Williams

Cerflun o Waldo Williams i ymweld â Llyfrgell Hwlffordd

Waldo Williams sculpture to visit Haverfordwest Library

Mae penddelw trawiadol o'r bardd a'r heddychwr enwog o Gymru Waldo Williams, a grëwyd gan y cerflunydd John Meirion Morris, ar fenthyg dros dro gan Gymdeithas Waldo i'w arddangos yn yr Oriel yng Nglan-yr-Afon (Llyfrgell Hwlffordd), tan ddydd Sadwrn 11 Hydref 2025.

Ganed Waldo Williams yn Hwlffordd yn 1904, a threuliodd ei blentyndod diweddarach ym mryniau'r Preseli, lle dysgodd y Gymraeg – yr iaith a ddaeth yn gyfrwng i'w feddyliau dwysaf. Er mai dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd, Dail Pren, mae'n cael ei ddathlu fel un o feirdd Cymraeg mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif.

Yn heddychwr ac yn Grynwr ymroddedig, cafodd Waldo ei garcharu ddwywaith gan Ynadon Hwlffordd. Nid fu erioed yn berchen ar gar, roedd yn well ganddo feicio lonydd Sir Benfro, ac roedd yn adnabyddus am ei ddelfrydau gweledigaethol, natur chwareus a’i hiwmor. Yn ddiweddarach yn ei fywyd dychwelodd i Hwlffordd, lle bu farw ar Ddiwrnod yr Esgyniad 1971.

Digwyddiadau Arbennig

  • Sylwer: ni fydd y cerflun ar gael i'w weld am ychydig ddyddiau o 25 Medi gan y bydd yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer Darlith flynyddol Cymdeithas Waldo.
  • Ddydd Mawrth 30 Medi am 5:30pm, bydd plac dehongli newydd yn cael ei ddadorchuddio yn Archifau Sir Benfro yn Prendergast, i goffáu cysylltiad Waldo â'i dref enedigol a'i flynyddoedd cynnar yn Ysgol Prendergast.

Ynglŷn â Phartneriaeth yr Oriel
Cyflwynir yr Oriel yng Nglan-yr-Afon mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Gall ymwelwyr hefyd fwynhau'r arddangosfa gyfredol CYFOES: Celf Cymru Heddiw · Contemporary Welsh Art, sy'n arddangos ystod fywiog o weithiau o'r Casgliad Celf Cenedlaethol, gan gynnwys paentiadau, cerfluniau a darnau cyfrwng cymysg gan artistiaid sefydledig ac artistiaid sy'n dod i'r amlwg – y mwyafrif yn weithiau gan artistiaid benywaidd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Dannedd Dodi gan Anya Paintsil, Y Fari Lwyd gan Dr Adéọlá Dewis, Blodeuwedd gan Natalia Dias, a Moelni Maith gan Lisa Eurgain Taylor.

Yn rhedeg ochr yn ochr â CYFOES mae'r arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n archwilio hanes, diwylliant a thirwedd y sir. Mae hyn yn cynnwys llun, a dynnwyd gan Julian Sheppard, o Waldo Williams gyda disgyblion yn Ysgol Gynradd Wdig ar ddiwedd y 1960au.

Bydd y ddwy arddangosfa, ynghyd â’r cerflun o Waldo Williams, yn parhau tan ddydd Sadwrn 11 Hydref 2025.