English icon English
Tîm Wallich

Sefydliad elusennol yn ymgymryd â’r tendr ar gyfer Allgymorth Digartref ar y Stryd

Charitable organisation takes on tender for Street Homeless Outreach

Mae Cyngor Sir Penfro yn hapus i gyhoeddi bod contract ar gyfer y Gwasanaeth Allgymorth Dyfal ar gyfer y Digartref ar y Stryd wedi cael ei ddyfarnu i The Wallich. 

Yn dilyn proses dendro gystadleuol, bydd y sefydliad elusennol yn gweithredu'r gwasanaeth lleol o dan ei dri amcan craidd. 

Dyma nhw: Cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl.  

Bydd y sefydliad yn cael effaith gadarnhaol yn y sir, gan gynnig ystod o wasanaethau tai hanfodol wedi'u teilwra i fodloni anghenion amrywiol y trigolion. 

Cynhaliodd The Wallich ddigwyddiad lansio heddiw, dydd Mawrth, 10 Hydref, ar Sgwâr y Castell, Hwlffordd i gyd-fynd â Diwrnod Digartrefedd y Byd. 

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i'r gymuned gyfarfod â'r tîm, dysgu mwy am y gwasanaethau maent yn eu cynnig, a chymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon am bwysigrwydd tai sefydlog.  

Roedd cynrychiolwyr o The Wallich yn bresennol i ateb cwestiynau a rhoi cipolwg ar eu mentrau.

Roedd y tîm ar gael ar Sgwâr y Castell rhwng 11am a 3pm, gydag ychydig o'u cerbydau fflyd i hyrwyddo'r gwasanaeth, ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan bobl ac i gysylltu â chyd-aelodau'r gymuned. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gefnogi'r fenter hon, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i feithrin cymuned dosturiol, gynhwysol a chefnogol i bawb."