
Dyfarnu contractwr datblygu Charles Street
Charles Street development contractor award
Mae Cyngor Sir Penfro wedi dyfarnu'r cytundeb gwasanaethau cyn adeiladu ar gyfer datblygiad tai yn Aberdaugleddau i WB Griffiths & Son Ltd.
Mae'r safle yn hen adeilad manwerthu yn Charles Street a gafodd ei ddymchwel yn 2018 gyda chynlluniau i adeiladu cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely ar gyfer trigolion tai cymdeithasol lleol.
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi cynaliadwy modern ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, wedi'u cynllunio i fod yn ynni effeithlon iawn ac wedi cael eu hadeiladu i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Croesawodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai, ddyfarniad y contract i WB Griffiths & Son Ltd.
Meddai: "Mae'n braf iawn bod cytundeb y gwasanaethau cyn adeiladu ar gyfer ailddatblygu'r safle pwysig hwn yng nghanol tref Aberdaugleddau bellach wedi cael ei ddyfarnu.
"Mae'r safle yn un o nifer a amlygwyd yn rhaglen adeiladu tai'r Cyngor, a phan fydd wedi cael ei gwblhau, bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy ychwanegol y mae eu hangen yn fawr yn y dref."
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y prosiect hwn yn mynd trwy gamau dylunio amrywiol ac opsiynau â chostau i sicrhau bod costau adeiladu'n hyfyw ac yn fforddiadwy.
Os cytunir ar gostau adeiladu, y nod yw i'r gwaith adeiladu ddechrau yn hydref 2024, a disgwylir i'r gwaith adeiladu gymryd tua 12 mis.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned, gan wahodd y gymuned a busnesau i gyfarfod â'r tîm datblygu, gweld cynlluniau cysyniadol, gofyn cwestiynau a darparu adborth gwerthfawr y gallwn ei ystyried mewn dyluniadau terfynol.
Dilynwch dudalen PCC Housing Services i gael mwy o ddiweddariadau datblygu https://www.facebook.com/PCCHousing
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid drwy housingCLO@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.